Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl i fynd i’r afael â thanau bwriadol

Postiwyd

 

Mae Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol y Gogledd yn apelio ar i drigolion eu helpu i fynd i’r afael â thanau bwriadol wrth i’r gwyliau haf gychwyn yr wythnos hon. 

Meddai Kevin Jones, Rheolwr Lleihau Llosgi Bwriadol: “Yn ystod y gwyliau a thywydd braf mae nifer o bobl ifanc yn aros allan yn hwyrach nag arfer. Yn ystod y gwyliau rydym yn aml iawn yn gweld cynnydd mewn tanau bwriadol. Rydym yn erfyn ar i’r gymuned ein helpu i fynd i’r afael â thanau bwriadol.

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle i erfyn ar i rieni wybod i ble yn union y mae eu plant yn mynd a phwysleisio’r neges bod tanau bwriadol yn peryglu bywydau.  

“Mae tanau bwriadol yn draul ar ein hadnoddau, mae ein criwiau yn aml yn treulio oriau maith yn taclo’r fath danau sydd yn eu hatal rhag mynychu argyfyngau gwirioneddol. 

“Cofiwch – mae cynnau tanau bwriadol yn drosedd ac rydym yn cydweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i fynd i’r afael â thanau o’r fath, gan ddefnyddio hofrennydd yr heddlu i ddod o hyd i danau a drwgweithredwyr.

“Cynghorir unrhyw un sydd gan wybodaeth am droseddau o’r fath i alw Crimestoppers ar 0800 555 111.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen