Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Ffenics yn tanio brwdfrydedd ieuenctid Conwy

Postiwyd

 

 

Cynhaliwyd cwrs Ffenics llwyddiannus arall yng Ngorsaf Dân Llanfairfechan. Y tro hwn disgyblion Ysgol Emrys ap Iwan, Abergele oedd yn cymryd rhan. 

Cymrodd 11 o blant rhwng 13-16 oed ran yn y cwrs sydd yn para wythnos. Ar ddiwedd yr wythnos cafwyd seremoni gyrhaeddiad lle cafodd y plant gyfle i arddangos eu sgiliau diffodd tanau newydd o flaen eu rhieni, cyfoedion ac aelodau staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Yn ystod y cwrs cafodd y plant flas ar sgiliau hanfodol y ddiffoddwr tân, sef gwaith tîm, dilyn gorchmynion, meddwl yn gyflym, dewrder a’r gallu i ddysgu sgiliau newydd yn gyflym.

Cynhaliwyd y cwrs diweddaraf yng Ngorsaf Dân Llanfairfechan dan oruchwyliaeth tîm gweithgar y Ffenics. Ar y diwrnod olaf roedd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Richard Fairhead, y Rheolwr Diogelwch Cymunedol Gwyn Jones, Meirick Lloyd Davies; Cadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub a Peter Lewis; Dirprwy Gadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub yn bresennol. 

Dyma oedd y cwrs cyntaf i gal ei gynnal dan oruchwyliaeth y Cydlynydd newydd, Pam Roberts. Dyma oedd ganddi hi i’w ddweud: “ Gan ddefnyddio arferion disgybledig a thasgau tîm yn yr un modd â’n diffoddwyr tân, ein nod yw ysgogi pobl ifanc i deimlo’n bositif amdanyn nhw eu hunain a’u gallu, a dangos buddion cyfathrebu da a gwaith tîm.  Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at gynhyrchu dinasyddion gwell yn ein cymunedau.  

“Mae’r Ffenics yn targedu pobl ifanc sydd yn ddihyder neu sydd gan ddiffyg parch tuag atynt hwy eu hunain, plant sydd yn cael trafferth gweithio fel rhan o dîm ac sydd yn ei chael hi’n anodd ymgysylltu yn yr ysgol, neu blant sydd mewn perygl o ymddwyn yn wrthgymdeithasol.  

“Yn ogystal ag elfennau ymarferol y cwrs, mae’r bobl ifanc hefyd yn cael darlithoedd er mwyn cwblhau llawlyfr i ennill tystysgrif Lefel 2 gan Agored Cymru.  Mae pob math o bynciau yn cael eu trafod megis diogelwch yn y cartref, galwadau ffug, llosgi bwriadol, ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddau ceir a gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd a'r nod yw eu helpu i ddeall bod canlyniadau ynghlwm â’r ffordd y maent yn ymddwyn.” 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen