Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd diogelwch yn dilyn llu o danau bwriadol

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân yn annog pobl i aros a meddwl am ganlyniadau tanau glaswellt yn dilyn llu o danau yn Ystâd Masnachu Spencer, Dinbych sydd wedi bod yn draul ar ein hadnoddau prin.

Cafodd criwiau eu galw i'r depo ailgylchu ar 10 Mai, 10 Mehefin  ac eto'r bore yma (12 Mehefin).  Treuliodd ddiffoddwyr tân bymtheg awr ar 10 Mehefin yn ceisio dod â'r tân dan reolaeth. Roedd y tri yn achos o losgi bwriadol.

 

Meddai Kevin Jones, Rheolwr Lleihau Llosgi Bwriadol: "Mae'n siomedig bod y tanau hyn wedi eu cynnau'n fwriadol.

 

"Mae tanau bwriadol yn rhoi pwysau mawr ar ein hadnoddau, ac yn aml iawn mae ein criwiau yn treulio oriau maith yn dod â'r tanau hyn o dan reolaeth, sydd yn golygu bod oedi wrth anfon diffoddwyr tân i ddigwyddiadau lle mae bywydau yn y fantol.

 

"Mae'n bosib na fyddem yn gallu ymateb mor gyflym i achub rhywun o dân oherwydd ein bod yn gorfod delio gyda thân bwriadol."

Mae cynnau tanau bwriadol yn drosedd ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael ag achosion o losgi bwriadol.

Cewch ddilyn ein hymgyrch i leihau tanau bwriadol yn y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn #helpstopdeliberatefires ar trydar neu drwy fynd i'n gwefan. www.gwastan-gogcymru.org.uk

Os oes gennych chi wybodaeth am droseddau o'r fath galwch Crimestoppers yn ddienw ar  0800 555 111 neu 101.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen