Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân yn Hen Golwyn

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg gweithredol wedi i breswylwyr lwyddo i ddianc o dân yn ddiogel yn gynharach heddiw (Dydd Sadwrn 30ain Mai).

Am 9:55am heddiw cafodd Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru ei alw i dân yn Ffordd Berth-y-Glyd Road, Hen Golwyn.

Anfonwyd pedwar peiriant a pheiriant cyrraedd yn uchel i'r digwyddiad. Roedd y preswylwyr wedi llwyddo i ddianc o'r ty cyn i'r gwasanaeth tân gyrraedd.

Bu'n rhaid i gymdogion hefyd adael eu cartrefi oherwydd y mwg gyda chymorth Heddlu Gogledd Cymru.  

Mae swyddogion yn dal i fod yn y dan a'r lle ac mae ymchwiliad i achos y tan a achosodd ddifrod sylweddol i'r eiddo ar y gweill.

Roedd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd yn bresennol a chafodd pump o bobl eu cludo i'r ysbyty am eu bod wedi anadlu mwg.

Meddai Geraint Hughes o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: " Mae'r digwyddiad yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg gweithredol. Roedd y trigolion yn ffodus iawn eu bod wedi cael eu rhybuddio am y tân gan eu larwm mwg.

"Rydym yn cynnig archwiliadau diogelwch tan yn y cartref rhad ac am ddim, lle bydd aelod o'r cyhoedd yn dod i'ch cartref i rannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg newydd."

I gofrestru am archwiliadau diogelwch tân yn y cartref, galwch ein rhif ffôn dwyieithog unrhyw adeg o'r dydd ar 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen