Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cyrraedd y rhestr fer

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru wedi ei enwebu ynghyd â chwe sefydliad arall ar gyfer gwobr newydd sydd yn anrhydeddu'r sefydliadau mwyaf hygyrch i bobol fyddar yng Nghymru.

Mae'r elusen Action on Hearing Loss Cymru (yr RNID gynt) wedi lansio Gwobr Rhagoriaeth Cymru, i gydnabod busnesau yng Nghymru sydd yn mynd gam ymhellach i sicrhau bod eu gwasanaethau yn hygyrch i'r un o bob chwech o bobl yng Nghymru sydd yn fyddar neu sydd gan nam ar eu clyw.

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Mae'r Gwasanaeth yn awyddus i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i bawb, a dyma pam bod gennym ni wasanaethau penodol i unigolion sydd gan nam ar eu clyw.

"Mae pob sydd yn fyddar neu sydd gan nam ar eu clyw yn cael cynnig ffonio Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar y gwasanaeth ffôn Text Relay; sef gwasanaeth ffôn sydd yn galluogi i bobl fyddar, pobl fyddar a dall, pobl sydd wedi colli eu clyw, pobl sydd gan nam ar eu clyw a phobl sydd gan nam ar eu lleferydd i gyfathrebu gyda ni dros y ffôn.   Y mae gennym hefyd wasanaeth neges destun sydd ar gael i bawb i drefnu archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim.

"Mae'r cyngor yr ydym ni'n ei ddarparu fel arfer ar gael yn ysgrifenedig, ac mae gan bob un o'n hadeiladau cymunedol ddolennau clyw fel y gall pobl sydd yn mynychu sesiynau cyngor ac ymwybyddiaeth gyfrannu ac elwa o'n cymorth.

"Mae pob un o'n haelodau staff gweithredol ynghyd â'n staff diogelwch cymunedol wedi derbyn sesiwn ymwybyddiaeth i gynyddu eu hymwybyddiaeth a'u dealltwriaeth o anghenion pobl fyddar a thrwm eu clyw mewn perthynas â diogelwch tân ac atal tanau - roedd hyn yn cynnwys defnyddio cyfarwyddiadau gweledol neu lenyddiaeth i gyfleu'r neges, yn ogystal â deall sut a pham ein bod yn gosod offer ataliol.

"Hefyd, yn y gorffennol rydym wedi hyfforddi pobl i weithredu fel eiriolwyr ac rydym yn parhau i ddarparu cyfleoedd i'r rhai hynny sydd yn awyddus i ddatblygu eu sgiliau iaith arwyddion; mae dau aelod o'n staff wedi eu hyfforddi i gyfathrebu drwy ddefnyddio iaith arwyddion.

"Mae nifer o bobl sydd gan nam ar eu clyw mewn perygl mawr o ddioddef tân yn y cartref oni bai bod ganddynt yr offer synhwyro cywir. Mae larymau mwg arbenigol yn rhoi cyfle i bobl fynd allan mewn achos o dân, ac mae'n hanfodol bod pobl fyddar neu drwm eu clyw yn cael gosod y larymau mwg cywir yn eu cartref i'w cadw'n ddiogel.

"Mae'r Gwasanaeth yn cynnig dau fath o offer synhwyro, mae un o'r systemau hyn yn cynnwys golau strobio a phad clustog sydd yn seinio rhybudd drwy grynu ac mae'r llall yn rhan o system ofal holistaidd sydd yn anfon rhybudd i system fonitro leol.

"Ein nod yw sicrhau bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn hygyrch i bawb. Rydym yn falch iawn ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer, ac mae'n anrhydedd cael ein cydnabod am ein hymdrechion."

Mae saith wedi cyrraedd y rhestr fer i ennill y wobr. Sef;

-           Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

-           Cynulliad Cenedlaethol Cymru

-           Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

-           Cwmni Theatr Taking Flight

-           Vision Products, Rhondda Cynon Taf

-           Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

-           Western Power Distribution

Bydd panel o feirniaid annibynnol yn penderfynu ar yr enillwyr categori Aur, Arian ac Efydd, a cyhoeddir enwau'r enillwyr yng nghinio gala Action on Hearing Loss Cymru ar 15 Mai 2015, yng ngwesty'r Hilton Caerdydd.

Os oes gennych chi amheuaeth ynghyn â'r math o larwm sydd gennych chi cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref rhad ac am ddim.  Rydym yma i'ch helpu i wneud yn siwr bod eich cartref mor ddiogel â phosibl rhag tân.

I gofrestru am archwiliad, ffoniwch 0800 169 1234 24 awr o'r dydd, anfonwch neges destun i 88365, gan ddechrau'r neges gyda HFSC neu cysylltwch â ni drwy fynd i  www.larwmmwgamddim.co.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen