Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Gwasanaeth Tân ac Achub yn atgoffa pobl i Feddwl yn Ddiogel, Coginio yn Ddiogel!

Postiwyd

Mae Swyddogion Tân yn rhybuddio am beryglon gadael bwyd yn coginio yn dilyn nifer o danau cegin yr wythnos diwethaf.

Cafodd criwiau eu galw i wyth tân cegin rhwng 15fed - 22ain Ebrill yn Wrecsam, Gaerwen, Abergele, Rhuthun, Corwen, Llanfair a'r Wyddgrug.

Meddai Brian Williams, Rheolwr y Tîm Diogelwch Cymunedol: "Coginio yw un o brif achosion tanau damweiniol yn y cartref yng Ngogledd Cymru. Dro ar ôl tro rydym yn cael ein galw i danau sydd wedi cychwyn yn y gegin  - mae mor hawdd
anghofio am fwyd sydd yn coginio yn enwedig os ydych wedi blino, os bydd rhywbeth yn mynd â'ch sylw neu os ydych wedi bod yn yfed.  Ond fe all y canlyniadau fod yn drychinebus.

"Yn ffodus iawn ni chafodd unrhyw yn ei anafu ond fe all anghofio diffodd y pentan, gadael bwyd yn y ficrodon yn rhy hir, gorboethi'ch sosban sglodion, llosgi tost, anghofio diffodd y popty  fod - gall pob un o'r rhain achosi tanau yn y gegin a hyd yn oed eich anafu'n ddifrifol neu'ch lladd.

"Mewn ymgais i leihau nifer y tanau cegin yr ydym ni'n cael ein galw atynt, byddwn yn ymweld ag archfarchnadoedd ar draws y rhanbarth fel rhan o'n hymgyrch 'Peidiwch â'n gwahodd i ginio' i amlygu sut y gallwch chi gadw'n ddiogel yn y gegin.

"Cafodd yr ymgyrch ei lansio yn Ne Gwynedd yn ddiweddar a bydd yr ymgyrch yn symud i ardal Wrecsam ym mis Mai. Fe all pobl brofi'r hyn y maent yn ei wybod am ddiogelwch tân drwy gymryd rhan yn ein cwis diogelwch coginio am gyfle i ennill gwerth £100 o dalebau archfarchnad - dilynwch ni ar facebook www.facebook/northwalesfire, neu #wedontwanttocomedinewithyou ar Twitter a gwrandewch ar ein hysbysebion ar Heart FM."

Dyma air i gall gan Brian ar sut i gadw'n ddiogel yn y gegin:

- Os oes rhaid i chi adael y gegin, tynnwch y bwyd oddi ar y gwres

- Peidiwch â defnyddio matsis a thanwyr i danio poptai nwy. Mae dyfeisiadau tanio yn llawer mwy diogel

- Gwnewch yn siwr nad ydy coesau'ch sosbenni yn mynd dros ymyl y popty

- Cadwch eich popty, pentan a gridyll yn lân - gall saim a braster sydd wedi casglu fynd ar dân yn hawdd iawn

- Peidiwch â hongian dim byd uwch ben eich popty

- Cymrwch ofal os ydych chi'n gwisgo dillad llac - gallant fynd ar dân yn hawdd iawn

- Ar ôl i chi orffen coginio gwnewch yn siwr bod popeth wedi ei ddiffodd

- Diffoddwch gyfarpar trydanol pan nad ydych yn eu defnyddio

- Peidiwch byth â defnyddio sosbenni sglodion - defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli'r gwres

- Gosodwch larymau mwg yn eich cartref - maent ar gael yn rhad ac am ddim a gallant achub eich bywyd.

- Peidiwch byth  â mynd yn ôl i mewn i'r eiddo, ewch allan ac arhoswch allan! Pe byddech yn anadlu mwg mae'n bosib na fyddech yn llwyddo i ddod allan yn ddiogel yr ail dro

- Nid yw yfed a choginio yn gyfuniad doeth. Mae cymaint o danau yn cael eu hachosi bob blwyddyn oherwydd bod pobl yn penderfynu coginio cyn mynd i'r gwely ar ôl dod adref o'r dafarn. Byddwch yn gall, paratowch frechdan cyn mynd allan neu prynwch tecawê ar y ffordd adref.

Os hoffech gyfle i ennill talebau siopa dilynwch y ddolen hon www.facebook.com/Northwalesfireservice gymryd rhan yn ein cystadleuaeth ar Facebook. Hoffwch, rhannwch a gwnewch sylw ar ein postiad i ni gael gwybod eich bod wedi rhannu ein negeseuon diogelwch.

Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw 8.00pm 30ain Medi.

Peidiwch ag anghofio bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tan yn y cartref yn rhad ac am ddim, lle byddwn yn gosod larymau mewn newydd. I gofrestru am archwiliad galwch ein llinell rhadffôn 24 awr o'r dydd ar 24 0800 1691243, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk<, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan ddechrau'r neges gyda HFSC.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen