Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Parcio anystyriol

Postiwyd

Mae Swyddog Tân yn rhybuddio'r cyhoedd i feddwl cyn parcio.  Yn ystod oriau mân y bore dydd Gwener 10fed Ebrill am 02.07 o'r gloch cafodd criwiau o Fwcle a'r Wyddgrug eu galw i dân mewn ty yn Victoria Avenue, Bwcle.

 

Ar ôl cyrraedd cafodd y criwiau drafferth  mynd at y ty oherwydd bod pobl wedi parcio eu ceir yn anystyriol.

 

Meddai Dave Roberts, Rheolwr Partneriaeth Sir y Fflint a Wrecsam: "Oherwydd bod trigolion wedi parcio yn anystyriol cafwyd oedi wrth ymateb i'r tân ym Mwcle.

 

"Yn ffodus iawn roedd y tân wedi ei ddiffodd erbyn i'r criwiau gyrraedd, ond oherwydd y modd yr oedd trigolion wedi parcio eu ceir roedd hi'n anodd iawn i'r injan dân fynd heibio.

 

"Fe allai'r digwyddiad hwn fod wedi peryglu bywyd y preswylydd, ac oherwydd bod y ffordd wedi ei chyfyngu oherwydd y ceir, a bod hyn wedi arwain at oedi, fe allem fod wedi gorfod delio gyda digwyddiad trasig iawn.  

 

"Os gwelwch yn dda peidiwch â dwbl-barcio ar ffyrdd cul gan fod hyn yn ei gwneud hi'n anodd i'r gwasanaethau brys, a chofiwch beidio â pharcio dros blatiau hydrant melyn gan ein bod angen defnyddio'r rhain mewn achos o dân."

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim.  Fel rhan o'r archwiliad bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref i rannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg newydd - a'r cyfan am ddim.  Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.

 

I gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref rhad ac am ddim. Galwch ein llinell rhadffôn dwyieithog 24 awr o'r dydd 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen