Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Nerys Dumbell yn bagio gwerth £100 o dalebau ng nghystadleuaeth coginio Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru!

Postiwyd

Roedd Nerys wrth ei bodd ei bod wedi ennill gwerth £100 o dalebau archfarchnad ar ôl ennill ein cystadleuaeth diogelwch coginio 'Peidiwch â'n gwahodd i ginio!' yn ddiweddar.

Cynhaliwyd yr ymgyrch mewn archfarchnadoedd ar hyd a lled y Gogledd yn ystod 2014 a chafwyd cystadleuaeth ar Facebook i gefnogi'r ymgyrch.  Fe gymrodd dros gant o bobl ran yn y cwis ar lein, ond Nerys oedd yn fuddugol wedi i'w henw gael ei ddewis ar hap ym mis Ionawr.

Fel rhan o'r ymgyrch fe aeth ein staff i archfarchnadoedd ar hyd a les y Gogledd i gwblhau cwisiau gyda siopwyr - roedd pawb a oedd yn cwblhau cwis yn cael amserydd cegin yn rhad ac am ddim, a chafodd yr ymgyrch hefyd ei hybu ar gyfryngau cymdeithasol y Gwasanaeth ynghyd â chyngor defnyddio ar sut i goginion ddiogel.

Meddai Terry Williams, Pennaeth Diogelwch Tân: "Dyma ffordd dda i'r Gwasanaeth fod yn rhagweithiol gyda'r cyhoedd.  

"Coginio yw un o brif achosion tanau yn y cartref yng Ngogledd Cymru, dro ar ôl tro rydym yn cae ein galw i danau sydd wedi cychwyn yn y gegin - mae'n hawdd iawn anghofio am fwyd sydd yn coginio, yn enwedig os ydych wedi bod yn yfed, os bydd rhywbeth yn mynd â'ch sylw neu os byddwch wedi blino. Ond fe all y canlyniadau fod yn drychinebus.

Cofiwch bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn  rhad ac am ddim, lle byddwn yn gosod larymau mwg newydd yn rhad ac am ddim , galwch ein rhif rhadffôn 24 awr ar 0800 1691243, anfonwch neges ebost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk, ewch i www.wastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan ddechrau'r neges gyda'r gair HFSC.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen