Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Coginio crempog - awgrymiadau gan eich

Postiwyd

Pan fyddwch yn meddwl am grempog flasus, gynnes, a thopin hyfryd ar ei phen, efallai na fydd diogelwch tân yn dod i'ch meddwl ar unwaith! Ond, gall tanau saim a sosban sglodion fod yn ddinistriol iawn, gyda chyfran uchel iawn o'r tanau yn arwain at anafiadau.

Meddai Gary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Gall gwneud crempog fod yn hwyl i'r teulu cyfan, ond gan fod mwyafrif y tanau damweiniol yn y cartref yn dechrau yn y gegin, cymerwch ofal, yn enwedig wrth goginio gydag olew poeth."

Mae Gary yn cynnig yr awgrymiadau diogelwch canlynol -

Wrth ddefnyddio padell ffrïo neu wrth goginio gydag olew poeth, cofiwch:

- Peidiwch byth â gadael padell os yw'r gwres ymlaen

- PEIDIWCH â symud y sosban os yw ar dân!

Gwnewch yn siwr bod y plant yn cael eu goruchwylio trwy'r amser, a'u cadw i ffwrdd o unrhyw fan lle mae olew poeth yn cael ei ddefnyddio.

Os yw'r sosban yn mynd ar dân:

- Peidiwch â chymryd unrhyw risg. Diffoddwch y gwres os yw'n ddiogel gwneud hynny.

-Peidiwch byth, byth â thaflu dwr drosti.

- Peidiwch â cheisio diffodd y tân eich hun.

- EWCH ALLAN, ARHOSWCH ALLAN, FFONIWCH 999.

"A phan fyddwch wedi gorffen coginio, gwnewch yn siwr bod y cyfarpar wedi ei
ddiffodd a bod y man coginio yn glir" ychwanegodd Gary.

Bydd larwm mwg sy'n gweithio yn cynyddu yn fawr eich siawns o ddianc yn ddi-anaf. Dylech lunio cynllun, a'i ddilyn - dylech wybod yn union sut buasech yn gadael y ty, ac yn gwybod i ble rydych yn mynd.

Arhoswch yn fyw, arhoswch yn ddiogel, a gwnewch yn siwr bod y larwm yn gweithio'n iawn.

- Profwch eich larwm/larymau tân bob wythnos.

- Newidiwch y batri bob blwyddyn (oni fo'n larwm 10 mlynedd)

- Dylid ei lanhau yn iawn o leiaf ddwywaith y flwyddyn, trwy ddefnyddio sugnwr ar y tu mewn.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân am ddim, lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn ymweld â'ch cartref, yn rhoi cyngor diogelwch tân, eich helpu chi i lunio cynllun dianc os oes tân a gosod larymau newydd - i gyd yn rhad ac am ddim. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i holl drigolion Gogledd Cymru.

I gofrestru i gael archwiliad diogelwch tân yn y cartref, ffoniwch y llinell 24 awr am ddim ar 0800 169 1234, ebost cfs@nwales-fireservice.org.uk neu ewch i
www.nwales-fireservice.org.uk.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen