Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn ty yn Wrecsam

Postiwyd

Mae archwiliad ar y cyd wedi ei lansio ar ôl i ddyn fynd i'r ysbyty yn dilyn tân mewn eiddo ym Mharc Caia, Wrecsam.

Galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i'r tân mewn ty ym Mryn Hafod am 2.05am heddiw, dydd Sadwrn 14eg Chwefror.

Aethpwyd â dyn 49 oed i'r ysbyty mewn Ambiwlans ar ôl dioddef effeithiau anadlu mwg.

Aeth dau beiriant o Wrecsam i'r lleoliad ac fe gyfyngwyd y tân i'r blwch llythyrau.

Credir bod y tân wedi ei ddechrau'n fwriadol a bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn ymgymryd ag archwiliad ar y cyd i'r achos.

Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ei alw i'r un stryd, awr yn gynharach, ar ôl adroddiadau bod dau dân ar wahân mewn car ac mewn sgip.

Ar hyn o bryd, ni chredir bod cysylltiad rhwng y digwyddiadau.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân am ddim, lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn ymweld â'ch cartref, yn rhoi cyngor diogelwch tân, eich helpu chi i lunio cynllun dianc os oes tân a gosod larymau newydd - i gyd yn rhad ac am ddim. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i holl drigolion Gogledd Cymru.

I gofrestru i gael archwiliad diogelwch tân yn y cartref, ffoniwch y llinell 24 awr am ddim ar 0800 169 1234, ebost cfs@nwales-fireservice.org.uk neu ewch i www.nwales-fireservice.org.uk.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen