Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cydnabod llwyddiant un o gyn ddisgyblion y Ffenics

Postiwyd

Yn ddiweddar fe ymunodd un o gyn-fyfyrwyr cwrs Ffenics Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gyda myfyrwyr o Goleg  Cambria i dderbyn cydnabyddiaeth arbennig am ei gwaith caled.

 

Bu i Jasmyn Humphreys, sydd yn 20 oed ac o Wrecsam ac sydd hefyd yn un o gyn-fyfyrwyr Coleg Cambria, ymuno gyda'r cwrs Ffenics i dderbyn gwobr ynghyd â myfyrwyr eraill a oedd wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yng Ngorsaf Dân yr Wyddgrug yr wythnos diwethaf.  

 

Mae'r Project Ffenics wedi bod yn rhedeg yn llwyddiannus ers nifer o flynyddoedd ac mae wedi helpu cannoedd o fyfyrwyr i ddysgu sgiliau newydd.

 

Nod y cwrs yw helpu pobl ifanc i fod yn fwy brwdfrydig a chadarnhaol amdanynt hwy eu hunain, er mwyn eu gwneud yn ddinasyddion gwell.

 

Meddai Eryl Owen, Cydlynydd y Ffenics:

 

"Fe berfformiodd pob un o'r myfyrwyr ar y cwrs yr wythnos diwethaf yn dda iawn ac rydym yn falch o bob un ohonynt ar eu llwyddiant yn ystod yr hyfforddiant.

 

"Fe ymunodd Jasmyn gyda hwy, un o gyn-ddisgyblion y Ffenics a aeth ymlaen i weithio gyda'r Tîm Ffenics yn ystod blwyddyn o brofiad gwaith.

 

"Mae Jasmyn wedi dangos ymrwymiad rhagorol ac mae hi wedi gweithio'n galed iawn gyda Thîm y Ffenics tra'n mynychu Coleg Cambria. Roedd pawb yn teimlo ei bod yn haeddu cydnabyddiaeth arbennig ac felly fe'i cyflwynwyd gyda ipod Touch.

 

"Mae llwyddiant y bobl ifanc yn dangos pwysigrwydd ein prosiectau cyfredol a'r effaith bositif y maent yn ei gael ar y genhedlaeth iau, ac rydym yn gobeithio y bydd mwy yn dilyn eu trywydd hwy.

 

"Rydym yn gobeithio bod y bobl ifanc wedi cael rhywbeth positif o'r prosiect Ffenics a fydd o fudd iddynt yn y dyfodol. "

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen