Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Atgyfnerthu'r bartneriaeth rhwng y gwasanaeth tân ac achub a Teleofal

Postiwyd

 

 

Mae'r bartneriaeth rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gwasanaeth Teleofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ei atgyfnerthu er mwyn diogelu pobl sy'n agored i niwed yn ardal Wrecsam yn well rhag tân.

 

Fe all tân ddigwydd  i unrhyw un, yn unrhyw le yn y cartref - o ganlyniad i fwyd sydd wedi ei adael yn coginio, gwreichion o danau agored, sigarét wedi ei adael yn llosgi neu nam trydanol. Nod y bartneriaeth yw gwella diogelwch ymhlith pobl sydd mewn perygl mawr o gael eu hanafu o ganlyniad i dân, a all fygwth bywydau hyd yn oed.

 

Fel rhan o'r gwaith i ddatblygu'r bartneriaeth, mae Swyddogion Diogelwch Tân yn y Cartref o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi derbyn hyfforddiant ar sut i raglennu synwyryddion mwg sydd wedi eu cysylltu i'r ganolfan fonitro Teleofal Sanctuary365, sef darparwr gwasanaeth Teleofal Cyngor Wrecsam.  

 

Meddai Dave Roberts, Swyddog Partneriaeth yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae Cyngor Wrecsam yn cefnogi dros 300 o bobl drwy ei wasanaeth Teleofal, ac mae diogelwch tân yn un o brif nodweddion yr offer sydd yn cynnwys uned larwm, nifer o synwyryddion yn cynnwys synwyryddion mwg a gwres. Y mae hyn yn gwarantu y bydd y synwyryddion yn anfon galwad yn awtomatig i ganolfan ymateb 24 awr Teleofal os bydd tân yn cynnau.

 

"Y ffordd fwyaf effeithiol o leihau'r perygl o dân yw gosod larymau mwg gweithredol yn yr eiddo - mae'r gwasanaeth tan ac achub yn cynnig archwiliad diogelwch tan yn y cartref yn rhad ac am ddim i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru ac y mae wedi gosod miloedd o synwyryddion mwg annibynnol ar draws y rhanbarth. Bydd y cam hwn yn helpu i wneud yn siwr bod pobl sydd gan anableddau, nam ar eu synhwyrau neu broblemau symudedd wedi eu diogelu'n well rhag tân.

 

"Ein nod yw ymateb i danau yn ogystal â'u hatal rhag cynnau yn y lle cyntaf, a thrwy ddatblygu'r bartneriaeth hon gallwn rannu ein sgiliau a'n gwybodaeth yn ogystal ag annog partneriaethau ynn y dyfodol."

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim ac fel rhan o'r archwiliad rydym yn gosod larymau mwg newydd am ddim.  Galwch ein rhif rhadffôn 24 awr ar 0800 1691243, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk , ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan ddechrau'r neges gyda'r gair HFSC.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen