Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Wythnos Diogelwch Tanau Trydanol

Postiwyd

Mae heddiw yn ddechrau Wythnos Diogelwch Tanau Trydanol (9fed – 15fed Tachwedd) – gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhubuddio trigolion o beryglon posibl tanau trydanol fel un o achosion mwyaf o danau damweiniol mewn tai yn y wlad.

 

 

 

Esboniodd Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Y llynedd, aethom allan i 262 o danau a oedd yn gysylltiedig â thrydan neu eitemau trydanol.

 

 

 

“Mae tanau trydanol yn berygl gwirioneddol i ddeiliaid tai, yn aml yn arwain at niwed arwyddocaol i’r eiddo, ac weithiau mae’r canlyniadau yn drasig.

 

 

“Y llynedd, roedd 85 o’r tanau trydanol hyn yn deillio o namau ar yr offer – ond achoswyd mwyafrif y tanau hyn gan gamddefnyddio eitemau trydanol.

 

 

 

“Mae’n bwysig defnyddio offer yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr ac edrych yn ofalus ar eitemau trydanol a cheblau i weld os oes arwyddion o wisgo – chwiliwch am graciau neu farciau llosgi. Mae cymaint o drigolion yn defnyddio eitemau trydanol hen a pheryglus, ac yn gorlwytho socedi, ac achosi risg tân a allai fod yn farwol.

 

 

“Mae storio deunydd llosgadwy mewn cypyrddau gyda mesuryddion trydanol a blychau ffiwsys yn beth arall a all gynyddu risg tân erchyll mewn tŷ. Mae storio eitemau yn agos at offer trydanol yn cynyddu’r perygl o’u niweidio a gor-boethi sydd wedyn yn helpu cynnydd cyflym mewn tân.

 

 

 

“Rydym wedi sylwi ar gynnydd yn y nifer o danau a achosir gan offer gwefru ôl-farchnad – ein cyngor ni yw prynu o ffynhonnell gydag enw da bob amser, a sicrhau nad yw’r gwefrwyr yn cael eu gadael neu’n gwefrio dros nos.

 

 

 

“Larymau mwg yw’r ffordd orau o gael rhybudd cynnar o dân yn eich cartref – ac eto mae’n ffaith o hyd bod rhyw 20% o’r digwyddiadau rydym yn cael ein galw iddynt mewn cartrefi heb larwm mwg sy’n gweithio.

 

 

“Gall tân trydanol ddigwydd i unrhyw un, mewn unrhyw le, felly ein cyngor ni yw y dylech fod yn barod ac aros yn ddiogel – mae’r wythnos hon yn amser da i sicrhau bod gennych larwm mwg sy’n gweithio a gwneud ymdrech benodol i gymryd gofal ychwanegol o’ch eitemau trydanol.

 

 

 

“Ac edrychwch ar ein cyfrifiannell ampau ar ein gwefan a’n tudalen Facebook – mae’n dweud wrthych os ydych yn gorlwytho eich socedi ac yn eich helpu i aros yn ddiogel yn drydanol.”

 

 

 

I gael cyngor ar ddiogelwch tân trydanol ac i roi cynnig ar ein cyfrfiannell i adio eich offer i fyny, ewch i www.nwales-fireservice.org.uk

neu www.facebook/northwalesfireservice.

 

 

I gael archwiliad diogelwch cartref am ddim, pan gaiff larymau newydd eu gosod yn rhad ac am ddim, ffoniwch y llinell 24 awr ar 0800 169 1234, ebostiwch cfs@nwales-fireservice.org.uk, ewch i www.nwales-fireservice.org.uk

neu anfonwch neges testun i 88365, gan roddi HFSC ar ddechrau’r neges.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen