Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Prosiect peilot i roddi cyngor ar ddiogelwch ffordd i drigolion hŷn

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn lansio peilot newydd fel rhan o Wythnos genedlaethol Diogelwch ar y Ffordd, a fydd yn cynnig cyngor ‘diogelwch ar y ffordd’ i drigolion hŷn tra maent yn cael archwiliad diogelwch cartref am ddim.

 

Mae staff y Gwasanaeth wedi bod yn ymweld â chartrefi ledled y rhanbarth am nifer o flynyddoedd i roi cyngor diogelwch cartref a sicrhau bod gan drigolion larymau mwg sy’n gweithio.

 

O’r wythnos hon ymlaen, bydd peilot newydd hefyd yn rhoi i drigolion dros 65 oed sy’n byw yng Nghonwy ac Ynys Môn y cyfle i gymryd rhan mewn ‘archwiliad cerbyd modur’ gydag aelod o staff y Gwasanaeth.

 

Bydd staff Tân ac Achub Gogledd Cymru yn helpu pobl i archwilio eu cerbydau eu hunain. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar y goleuadau a’r sychwyr ffenestr a sicrhau bod digon o wadn ar y teiars.

 

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae ein harchwiliadau diogelwch cartref wedi bod yn boblogaidd iawn gyda thrigolion, ac roeddem yn awyddus i ganfod dulliau eraill o gadw ein cymunedau mor ddiogel â phosib.

 

“Rydym yn gwneud llawer o waith yn addysgu pobl ifanc ynglŷn â diogelwch wrth y llyw, ond roeddem hefyd eisiau sicrhau bod ein trigolion hŷn mor ddiogel ag y bo modd wrth yrru eu ceir.

 

“Dyma pam rydym yn cyflwyno’r cynllun peilot hwn – nid yw’n asesiad ffurfiol o gwbl, ond bydd yn dangos i drigolion sut i wneud archwiliad sylfaenol o’r car a helpu nodi peryglon posibl ynghyd â rhoi cyngor.

 

“Byddwn hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â chynghorau lleol ac yn eu cyfeirio i’r cyrsiau a’r asesiadau sydd ar gael.

 

“Rydym yn parhau i weithio i gadw ein cymunedau’n ddiogel ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn datblygu trwy’r amser ac yn ystyried dulliau o gynorthwyo ein partneriaid i wneud yr un peth.”

 

I gael archwiliad diogelwch cartref yn rhad ac am ddim a chyngor ar ddiogelwch yn y cartref, ffoniwch linell ffôn 24 awr Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am ddim ar 0800 169 1234 neu ewch i www.nwales-fireservice.org.uk neu anfonwch neges testun i 88365, gan sicrhau eich bod yn dechrau eich neges gyda HFSC.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen