Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Carolau’r Gwasanaethau Argyfwng 2015

Postiwyd

Bydd y Gwasanaethau Argyfwng yng Ngogledd Cymru yn ymuno â’i gilydd ar gyfer eu Gwasanaeth Carolau blynyddol yng Nghadeirlan Llanelwy ym mis Rhagfyr.

 

Ar ddydd Llun 7fed Rhagfyr am 7.30pm bydd Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yr RNLI a gwasanaethau argyfwng eraill yn cymryd rhan yn y digwyddiad blynyddol.

 

Meddai Marcus Wyn Robinson, Caplan ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae’r gwasanaeth hwn yn gyfle i’r Gwasanaethau Argyfwng ac unrhyw wasanaeth arall, boed yn wirfoddol neu fel arall, ddod at ei gilydd i daro nodyn llawen. Mae am ddim ac yn agored i bawb, ac mae’n siŵr o fod yn noson wych.”

 

Yn cefnogi’r Gwasanaethau Argyfwng fydd Band Arian Llaneurgain, Côr Alaw a’r Unawdydd, Sioned Terry.

 

Bydd amrywiol ddarlleniadau gan gynrychiolwyr o’r gwasanaethau ynghyd â charolau adnabyddus i’r gynulleidfa gyfan eu canu.

 

Mae mynediad i’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim a gwahoddir aelodau’r cyhoedd i fynychu.

 

Bydd y casgliad yn ystod y gwasanaeth yn cael ei roddi i Gronfa Elen.

 

Ar ôl y gwasanaeth, bydd mins peis a diod gynnes ar gael yn y Gadeirlan.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen