Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dywedwch wrthym beth sy’n bwysig i chi – cymerwch ran yn ein harolwg cydraddoldeb

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymroddedig i hyrwyddo cyfle cyfartal mewn gwaith a chyflwyniad gwasanaeth ar draws y sefydliad cyfan – a heddiw mae’n lansio ymgynghoriad yn annog y cyhoedd i leisio barn ar ein hamcanion cydraddoldeb i’r dyfodol.

Meddai’r Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Ruth Simmons: “Ein polisi yw sicrhau bod holl ddefnyddwyr gwasanaeth, ymgeiswyr am swyddi a gweithwyr yn cael eu trin yn deg a chyda gofal. Rydym yn cydnabod y gall pobl brofi anfantais a gwahaniaethu am lawer o resymau, ac rydym yn cefnogi’n llawn ddarpariaethau deddfwriaeth ddiweddar i ddileu’r rhwystrau hyn.

“Rydym yn ymroddedig i arwain yn y broses hon, nid yn unig oherwydd gorchymyn cyfreithiol ond hefyd bod gwneud hynny yn ein helpu ni i gyflawni ein hamcanion gweithredol a busnes ynghyd ag arddangos rôl y Gwasanaeth o ran hybu cydlyniant cymunedol yn y rhanbarth.

“Mae cydraddoldeb yn golygu creu cymdeithas decach lle mae amrywiaeth yn cael ei werthfawrogi a’i barchu, lle nad yw pobl yn wynebu gwahaniaethu a rhagfarn a lle gall pawb gymryd rhan, ffynnu a chael y cyfle i gyflawni eu potensial.”

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru felly yn ymwybodol o’r angen i:

  • Ddileu gwahaniaethu, aflonyddiad ac erledigaeth

  • Hybu cyfle cyfartal

  • Hyrwyddo perthynas dda rhwng gwahanol grwpiau o bobl a chymunedau.

     

    Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 wedi harmoneiddio a chryfhau deddfwriaeth cydraddoldeb dan un Ddeddf newydd, sy’n ei gwneud yn ofynnol bod cyrff cyhoeddus yn ystyried y materion hyn. Rydym felly yn annog pobl i hysbysu’r Gwasanaeth sut dylai weithio tuag at ein hamcanion cydraddoldeb dros y pedair blynedd nesaf.

     

    Mae’r Ddeddf yn rhestru nifer o nodweddion na ddylid eu defnyddio fel rheswm i drin rhai pobl yn waeth nag eraill – gelwir y rhain yn ‘nodweddion gwarchodedig’.

    Ychwanegodd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Ruth Simmons: “Pwrpas yr ymgynghoriad hwn yw cael gwybod beth yw barn pobl ar y rhwystrau mwyaf sy’n wynebu pobl â nodweddion gwarchodedig yng Ngogledd Cymru a beth ddylem eu mabwysiadu fel amcanion cydraddoldeb yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020.

     

    “Mae hwn yn ymgynghoriad pwysig sy’n delio â chydraddoldeb mewn perthynas â nifer o feysydd gwahanol. Cymerwch y cyfle hwn i ddweud wrthym beth ddylai ein blaenoriaethau cydraddoldeb fod yn eich barn chi.”

     

    Dilynwch y ddolen hon i leisio eich barn – mae’r ymgynghoriad yn rhedeg tan 31ain Rhagfyr 2015. Mae gwybodaeth bellach ar gael yn www.nwales-fireservice.org.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen