Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd am ddiogelwch canhwyllau ar ôl i ddyn fynd i’r ysbyty ar ôl tân cannwyll yn Nhrefor

Postiwyd

Mae Uwch Swyddog gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn apelio i bobl i gymryd gofal wrth ddefnyddio canhwyllau, yn ystod Wythnos Diogelwch Tanau Cannwyll (23 – 29 Tachwedd) i leihau perygl tanau yn eu cartrefi.

Mae hyn yn dilyn digwyddiad neithiwr yn Nhrefor, Gwynedd, pan aethpwyd â dyn i’r ysbyty ar ôl tân yn ei gartref a achoswyd gan gannwyll, wedi ei gadael heb neb yn cadw llygad arni. Galwyd criwiau i’r eiddo ar New Street, Trefor am 22.09 o’r gloch i ddelio â thân yn y gegin. Credir bod cannwyll wedi ei gadael ar ôl i’r pŵer fynd allan yn yr ardal. Achosodd y tân ddifrod tân 100% i’r gegin ac mae’r deiliad 90 oed wedi mynd i’r ysbyty ar ôl anadlu mwg.

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: ”Mae’r digwyddiad hwn yn pwysleisio peryglon gadael canhwyllau a pha mor hawdd y gall tân gychwyn.

 “Mae canhwyllau’n gyffredin mewn llawer o gartrefi – ond mae’n bwysig cofio nad rhywbeth addurniadol yn unig yw canhwyllau. O’u gadael ar eu pennau eu hunain, gall fflam noeth achosi llawer o ddinistr.

"Aethom allan i 20 tân oherwydd canhwyllau y llynedd, ac er bod y nifer yn gymharol fach, diolch byth, pan maent yn digwydd, medrent achosi difrod erchyll.

“Er eu bod yn edrych yn ddeniadol, mae canhwyllau yn fflamau noeth o hyd, ac felly mae angen gofal ychwanegol wrth eu defnyddio. Opsiwn arall yw defnyddio cannwyll fatri fach y gellir eu prynu am bris isel. Maent yn gweithio â batri yn hytrach na fflam. Mae’r canhwyllau hyn yr un mor effeithiol o ran creu awyrgylch ond yn llawer diogelach na channwyll gyffredin. Hefyd, mae’n syniad da cadw tortshis a batris sbâr wrth law i’w defnyddio os yw’r pŵer yn mynd allan."

Mae Stuart yn cynghori trigolion sy’n defnyddio canhwyllau arferol i ddilyn y cyngor isod:

  • Gwnewch yn siŵr bod canhwyllau wedi eu gosod mewn cynhwysydd priodol, ar wyneb gwastad, ac yn ddigon pell oddi wrth unrhyw beth a allai fynd ar dân – megis llenni

  • Ni ddylid gadael plant nac anifeiliaid anwes ar eu pennau eu hunain gyda chanhwyllau wedi eu cynnau

  • Peidiwch â gadael cannwyll unwaith y bydd wedi ei goleuo. Diffoddwch y gannwyll pan fyddwch yn gadael yr ystafell a sicrhewch ei bod wedi ei diffodd yn iawn ar ddiwedd y noson.

 

  • Cadwch y pwll o wêr yn rhydd rhag darnau o wic, matsys ac ati

 

  • Llosgwch ganhwyllau mewn ystafell wedi ei hawyru’n ddigonol, ond dylid osgoi drafftiau neu gerrynt gwynt – bydd hyn yn helpu i rwystro llosgi yn gyflym neu’n anwastad, ffurfio huddug a gormod o ddiferu

 

  • Torrwch y wic i ¼ modfedd bob tro cyn llosgi. Gall wiciau hir neu gam achosi llosgi anwastad, diferion a fflachiau

 

  • Peidiwch â symud canhwyllau unwaith y byddant wedi eu goleuo

 

  • Dilynwch argymhellion y gwneuthurwr o ran amser llosgi a defnydd priodol

 

  • Dylid rhoi canhwyllau gydag arogl mewn cynhwysydd gwrth-wres, gan fod y canhwyllau hyn yn troi’n hylif wrth losgi, i wneud y mwyaf o’r arogl

 

  • Peidiwch â llosgi gormod o ganhwyllau yn agos at ei gilydd, gan y gall hyn achosi i’r fflam fflachio

 

  • Defnyddiwch haearn cannwyll neu lwy i ddiffodd canhwyllau. Mae’n fwy diogel na chwythu, sy’n medru achosi gwreichion

 

Ychwanegodd:

 

“Hyd yn oed gyda’r rhagofalon hyn, mae’n hanfodol bod yn barod rhag ofn i’r gwaethaf ddigwydd. Gall larwm mwg sy’n gweithio roi amser hanfodol i chi i fynd allan, aros allan, a ffonio 999. Cadwch eich hun a’ch anwyliaid yn ddiogel trwy brofi’r larwm yn rheolaidd a threfnu ac ymarfer defnyddio llwybr dianc.”

 

I gael archwiliad diogelwch tân a chyngor ar ddiogelwch yn eich cartref, ffoniwch linell 24 awr Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am ddim ar 0800 169 1234 neu ewch i www.nwales-fireservice.org.uk neu anfonwch neges testun i 88365, gan roddi HFSC ar ddechrau’r neges.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen