Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Gwasanaeth Tân ac Achub yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Carbon Monocsid

Postiwyd
 

Y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Carbon Monocsid (Dydd Llun 16- Dydd Sul 22 Tachwedd 2014).

Meddai Terry Williams, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Gall  gwenwynocarbon monocsid eich lladd neu achosi dirfod parhaol i'ch iechyd.

"Y mae carbon monocsid yn cael ei gynhyrchu pan nad ydy tanwydd yn cael ei losgi'n iawn - does ganddo ddim arogl na blas a, pan fydd llawer iawn ohono, gall ladd yn gyflym iawn. 

"Rydym yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Carbon Monocsid er mwyn helpu i gadw ein trigolion yn ddiogel.

"Drwy wneud yn siwr bod offer sydd yn llosgi tanwydd a'u simneiau yn cael eu cynnal a'u cadw  yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr bod simneiau yn cael eu glanhau yn rheolaidd a'ch bod wedi gosod larwm Carbon Monocsid, gallwn helpu i gadw ein hunain a'n teuluoedd yn ddiogel rhag peryglon carbon monocsid."

 

Sut  mae carbon monocsid yn cael ei gynhyrchu?

Y mae carbon monocsid yn anodd ei ganfod oherwydd nad oes ganddo arogl, blas na lliw.  Y mae hyn yn golygu hefyd y gallwch ei anadlu heb yn wybod i chi.

Y mae carbon monocsid yn cael ei gynhyrchu pan nad ydy tanwydd fel nwy, olew, glo a choed yn llosgi'n iawn. 

Pan fydd tân yn llosgi mewn ystafell gaeedig, bydd yr ocsigen yn cael ei ddefnyddio'n raddol a charbon deuocsid yn cymryd ei le. Bydd y carbon deuocsid sydd yn casglu yn yr aer  yn atal y tanwydd rhag llosgi'n iawn ac yna'n rhyddhau carbon monocsid. 

 

Achosion gwenwyno carbon monocsid

Os nad ydy tanwydd yn llosgi'n iawn, bydd nwy carbon monocsid (CO) yn cael ei gynhyrchu.

Gall unrhyw un o'r isod achosi i garbon monocsid gasglu:

  • Defnyddio barbeciw neu wresogyddion gardd yn y ty
  • Defnyddio offer coginio er mwyn cadw ystafell yn gynnes
  • Mannau caeedig neu heb eu hawyru  - wrth losgi tanwydd mewn mannau caeedig neu heb eu hawyru'n iawn, heb fentiau, ffenestri neu ddrysau ar agor neu'n gilagored
  • Offer sydd â nam arnynt neu wedi eu difrodi - gwresogi neu goginio  
  • Offer coginio heb eu cynnal a'u cadw  
  • Ystafelloedd sydd heb eu hawyru'n dda - ffenestri wedi eu seiliedig, heb fricsen aer  
  • Simneiau neu ffliwiau wedi blocio - nythod adar, briciau wedi syrthio, llystyfiant, gwaith atgyweirio/adeiladu gwael
  • Heb osod offer yn gywir - megis poptai neu offer gwresogi
  • Gadel injan neu beiriannau torri gwair ymlaen yn y garej  
  • Hen offer sydd heb eu cynnal a'u cadw'n iawn
  • Mygdarthau paent - mae mygdarth hylifau a defnyddiau cael gared ar baent yn cynnwys methylen clorin (dichloromethane) sydd hefyd yn gallu arwain at achosion o wenwyno carbon monocsid.

 

Arwyddion Perygl  

Mae'r arwyddion perygl o ollyngiad CO yn cynnwys:

  • Fflamau melyn neu oren pan ddylent fod yn las
  • Olion huddygl ar danau a gwresogyddion dwr.  Y mae hefyd yn bosib i chwi gael eich gwenwyno gan garbon monocsid os ydych yn rhannu simnai gyda thy arall sydd fan ollyngiad CO, hyd yn oed os nad oes gollyngiad yn eich ty chi.

 

Yr effaith y mae'n ei gael ar bobl

Dyma'r chwe prif symptom:

  • Cur pen
  • Pendro
  • Cyfog
  • Colli gwynt
  • Ymgwympo
  • Colli ymwybyddiaeth

 

Gallwch achub ei bywyd drwy fod yn ymwybodol o'r peryglon:

 Mae symptomau gwenwyno carbon monocsid  yn debyg iawn i symptomau'r ffliw, gwenwyn bwyd, haint firaol neu flinder.

Byddwch yn dioddef o'r symptomau pan fyddwch yn y cartref. A byddant yn diflannu neu'n gwella pan fyddwch yn gadael y cartref ac yna'n dychwelyd ar ôl i chi ddod adref.

Mae'n bosib y bydd eraill yn eich cartref yn dioddef yr un symptomau (yn cynnwys anifeiliaid anwes) a byddant yn digwydd ar yr un pryd.

 

http://www.gassaferegister.co.uk/learn/carbon_monoxide_kills.aspx

 

Beth ddylech chi ei wneud

 

Gosod synhwyrydd/larwm Carbon Monocsid yn y lle cyntaf

  • Diffodd cyfarpar nwy a gadael y ty
  • Mynd allan i'r awyr iach yn syth, agor drysau a ffenestri

Fe ddylai unrhyw un sydd yn arddangos unrhyw un o'r symptomau a restrir fynd i weld eu meddyg yn syth neu fynd i'r ysbyty, gan roi gwybod eu bod yn meddwl eu bod yn dioddef o wenwyno Carbon Monocsid.

Os credwch eich bod mewn perygl uniongyrchol, galwch Linell Gymorth Nwy mewn Argyfwng a gofynnwch i beiriannyddGas Safeddod i archwilio'ch cyfarpar nwy a'ch ffliwiau.

Gallwch ffonio'r Gwasanaeth Argyfwng Nwy Cenedlaethol neu Ymholiadau Cenedlaethol ar 0800 111 999.

Os ydych yn fyddar neu os oes gennych nam ar eich clyw gallwch gysylltu drwy ddefnyddio Minicom neu Ffôn Testun ar 0800 371 787

http://www.gashelpline.co.uk/

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn eich cynghori'n gryf i ddefnyddio larwm mwg Carbon monocsid sy'n seinio rhybudd.  Cyn prynu larwm, gwnewch yn siwr ei fod yn cydymffurfio gyda'r Safon Brydeinig EN 50291 a bod marc diogelwch Prydeinig neu Ewropeaidd arno, megis y Marc Barcud.

Dylid gosod, archwilio a chynnal a chadw larymau carbon monocsid yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Rydych yn fwy agored i wenwyn carbon monocsid pan fyddwch yn cysgu, oherwydd na fyddwch yn ymwybodol o'r symptomau tan ei bod hi'n rhy hwyr.  Fe allai larwm sy'n seinio rhybudd eich deffro ac achub eich bywyd.

Am archwiliad diogelwch yn y cartref am ddim, sydd yn cynnwys gosod larymau mwg newydd yn rhad ac am ddim, galwch ein llinell gymorth 24 awr ar 0800 1691234, anfonwch e-bost i  dtc@nwales-fireservice.org.uk< , ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk

neu anfonwch neges destun i 88365, gan ddechrau'r neges gyda HFSC.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen