Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Byddwch yn ddiogel ar noson tân gwyllt

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar bobl ifanc i beidio â chwarae gyda thân gwyllt na chynnau coelcerthi yn ystod gwyliau hanner tymor rhag ofn iddynt gael eu hanafu neu eu lladd.

 

Gydag wythnos i fynd tan noson tân gwyllt mae’r gwasanaeth tân ac achub yn annog y cyhoedd i gymryd pwyll gyda thân gwyllt ac i fynychu nosweithiau tân gwyllt cymunedol.

 

Dywedodd Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: " Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae diogelwch yn gyfrifoldeb ar bob un ohonom.  Nid oes modd gorbwysleisio mai'r ffordd orau i ostwng nifer yr anafiadau ar adeg noson tân gwyllt ydi mynd i arddangosfa gymunedol wedi’i threfnu.  Dyma'r arddangosfeydd mwyaf diogel, sydd â’r cyfleusterau gorau a lle cewch y gwerth gorau am eich arian. Ar adeg noson tân gwyllt, mae pobl oedrannus a pherchnogion anifeiliaid anwes yn pryderu fwy, felly trwy fynd i arddangosfa gymunedol, mae modd lleihau'r pryder hwn.

 

“Ewch i’n gwefan neu’n tudalennau Facebook i gael rhestr o’r nosweithiau cymunedol ledled y gogledd.

 

"Os oes raid i chi ddefnyddio tân gwyllt eich hun, dilynwch y rheolau tân gwyllt."

 

Y Rheolau Tân Gwyllt

 

- Prynwch dân gwyllt sydd â BS 7114 arnynt yn unig.

- Peidiwch ag yfed alcohol os byddwch chi'n cynnau tân gwyllt.

- Cadwch y tân gwyllt mewn bocs a chaead arno.

- Dilynwch y cyfarwyddiadau sydd ar bob tân gwyllt.

- Taniwch nhw hyd braich i ffwrdd, gan ddefnyddio tapr.

- Sefwch yn ddigon pell yn ôl.

- Peidiwch byth â mynd yn agos at dân gwyllt sydd wedi’i gynnau.  Hyd yn oed os nad ydi o wedi tanio, mae'n dal yn bosib iddo ffrwydro.

- Peidiwch byth â rhoi tân gwyllt yn eich poced, na'i daflu.

- Dylid goruchwylio plant os ydynt yn agos at dân gwyllt.

- Taniwch ffyn gwreichion un ar y tro, a gwisgwch fenig.

- Peidiwch byth â rhoi ffyn gwreichion i blant dan bum mlwydd oed.

- Cadwch anifeiliaid anwes yn y tŷ.

"Os byddwch chi'n trefnu noson tân gwyllt, rhowch wybod i Ystafell Reoli Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru trwy ffonio 01931 522 006."

Dywedodd yr Arolygydd Julie Sheard: "Gwyddom fod y rhan fwyaf o bobl yn gall wrth fwynhau’r adeg yma o’r flwyddyn a dydyn ni ddim eisiau difetha hwyl neb, ond yn anffodus mae yna leiafrif sy’n benderfynol o achosi problemau a defnyddio Noson Tân Gwyllt fel esgus i droseddu a gweithredu’n wrth-gymdeithasol.

"Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill i gadw pobl yn ddiogel a gwneud yn siŵr nad oes lleiafrif yn tarfu ar gyfnod cyffrous a phleserus. Er lles diogelwch pawb, rydym hefyd yn annog trigolion i fynychu nosweithiau tân gwyllt cymunedol sy’n cael eu hysbysebu’n eang yn y wasg leol cyn Tachwedd 5th."

Os gwyddoch am bobl sy’n camddefnyddio tân gwyllt naill ai i ddifrodi eiddo neu i achosi anaf, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, neu mewn argyfwng deialwch 999.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen