Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

“Noson i’w Chofio” – ffilm newydd am ddiogelwch tân yn cael ei dangos

Postiwyd

Mae’r tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru wedi bod yn cydweithio i greu ffilm newydd ynglŷn â diogelwch tân i’w dangos am y tro cyntaf mewn ysgolion ledled y wlad yn ystod yr hydref.

 

Daeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru at ei gilydd i ganolbwyntio ar ffyrdd o dargedu pobl ifanc mewn ysgolion er mwyn ceisio gostwng nifer y tanau a gwella diogelwch tân, boed hynny gartref neu yn yr awyr agored, yn danau damweiniol neu danau bwriadol.

 

Ar ôl misoedd o waith datblygu ar y cyd, mae casgliad o adnoddau addysgol newydd ac arloesol yn cael ei lansio mewn ysgolion yng Nghymru yn ystod yr hydref.

 

Mae’r adnoddau’n cynnwys llyfrau gwaith a byrddau stori i gynorthwyo gyda’r gwaith o addysgu ynglŷn â diogelwch tân, a bu’r tri gwasanaeth tân ac achub yn gweithio’n agos â Cwmni Da, y cwmni teledu o’r gogledd, i greu ffilm am ddiogelwch tân sy’n mynd i’r afael â nifer o faterion sydd wedi peri pryder i’r gwasanaethau brys yn y gorffennol.

 

Bydd y fideo ‘Noson i’w Chofio’ yn cael ei anelu at gynulleidfaoedd yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 o fis Hydref ymlaen. Bydd y ffilm uniongyrchol a gonest yn ymdrin ag amrywiaeth o broblemau sy’n gyffredin ymysg y grŵp oedran hwn, megis yfed dan oed, pwysau gan gyfoedion, effeithiau’r cyfryngau cymdeithasol, bwlio ac ymddygiad byrbwyll.

 

Gan siarad ar ran y tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru, dywedodd yr Uwch Reolwr Diogelwch Tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Stuart Millington: “Mae’r prosiect hwn yn cydnabod ei bod hi’n ddyletswydd arnom fel gwasanaethau tân ac achub nid yn unig i ymdrin â materion diogelwch tân ond hefyd i fynd i’r afael â phroblemau gwrthgymdeithasol eraill megis yfed dan oed, pwysau gan gyfoedion, ac effeithiau’r cyfryngau cymdeithasol – a thynnir sylw at bob un o’r pynciau hyn yn y DVD newydd hwn.

 

“Bu ein haddysgwyr yn gweithio’n agos â Cwmni Da i greu’r ffilm a fydd yn cael ei defnyddio ledled Cymru mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4, gan roi cip nid yn unig ar beryglon ymddygiad byrbwyll ond hefyd beth yw canlyniadau’r gweithredoedd hynny a sut y maent yn effeithio ar y bobl dan sylw.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen