Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tedis Trawma yn ymuno â’r Gwasanaeth Tân ac Achub

Postiwyd

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn defnyddio teganau meddal a wnaed gan weuwraig selog leol i gysuro plant a phobl sy’n agored i niwed mewn digwyddiadau gofidus.

 

Mae’r ‘Tedis Trawma’ wedi eu defnyddio am nifer o flynyddoedd, ond roedd y stoc yn rhedeg yn isel. Anogodd digwyddiad diweddar lle defnyddiwyd y tedis i gysuro bachgen a merch adeg gwrthdrawiad traffig ffordd i’r diffoddwyr tân wneud apêl i bobl leol sy’n hoffi gwau.

 

Clywodd Patricia Morris, 72, o Wrecsam am yr apêl trwy ei merch Denise sy’n gweithio fel cogydd yng Ngorsaf Dân Wrecsam. Mae wedi gwau dwsinau o dedis ac yn parhau i gynhyrchu tedis amryliw.

 

Meddai Patricia: “Mae’n syniad hyfryd, ac rwy’n hapus i helpu Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Efallai y byddaf yn sôn am hyn wrth ffrindiau eraill sy’n gwau, er mwyn iddynt wneud hyd yn oed mwy o dedis!”

 

Bydd y teganau y mae Patricia wedi eu gwau yn cael eu cadw ar y peiriannau tân ledled Gogledd Cymru, a bydd y diffoddwyr tân yn eu rhoi i bobl fel y bo angen.

 

Meddai Paul Scott, Rheolwr Diogelwch Cymunedol ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint: “Mae’r cynllun ‘Tedis Trawma’ yn ffordd ardderchog o roi cysur i blant a phobl sy’n agored i niwed mewn digwyddiadau trawmatig. Mae cael rhywbeth i afael ynddo yn medru helpu lliniaru pryder, yn enwedig mewn plant.

 

“Rydym yn falch o fedru gweithio gyda’r gymuned yn y dull hwn. Hoffwn ddiolch i Patricia am gymryd rhan, a chymryd yr amser a gwneud yr ymdrech i greu pob tegan unigol.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen