Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cyflwyno adnoddau addysgol arloesol am ddiogelwch tân ledled Cymru

Postiwyd

Mae’r tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru wedi bod yn cydweithio i greu casgliad o adnoddau addysgol newydd ac arloesol i’w defnyddio mewn ysgolion ledled y wlad oddi ar yr hydref eleni.

 

Daeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru at ei gilydd i ganolbwyntio ar ffyrdd o dargedu pobl ifanc mewn ysgolion er mwyn ceisio gostwng nifer y tanau a gwella diogelwch tân, boed hynny gartref neu yn yr awyr agored, yn danau damweiniol neu danau bwriadol.

 

Mae’r adnoddau’n cynnwys llyfrau gwaith newydd a byrddau stori i’w defnyddio ar gyfer addysg diogelwch tân mewn ysgolion cynradd, ynghyd â ffilm am ddiogelwch tân o’r enw ‘Noson i’w Chofio’, sy’n targedu pobl ifanc rhwng 15-18 mlwydd oed ac a ddangosir am y tro cyntaf mewn ysgolion uwchradd ym mis Tachwedd.

 

Tanni, hoff fasgot y gwasanaeth tân ac achub, yw seren y deunyddiau addysgiadol ar gyfer y grwpiau iau.

 

Bob blwyddyn, ymhob cwr o Gymru, mae tua 35,000 o ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen yn dysgu am ddiogelwch tân; a Tanni yw canolbwynt y negeseuon diogelwch tân.

 

Mae Tanni’n ymddangos mewn llyfrau gwaith am ddiogelwch tân, sy’n gofyn i’r plant gwblhau gwahanol gemau, heriau a gweithgareddau hwyliog eraill yn ymwneud â diogelwch. Caiff yr adnoddau eu darparu i ysgolion pan fydd addysgwyr y gwasanaeth tân ac achub yn ymweld. Daeth Grŵp Addysg Cymru gyfan ynghyd i greu adnodd a oedd nid yn unig yn arweiniad hanfodol ar ddiogelwch tân ond a oedd hefyd yn dilyn y cwricwlwm ABCh yng Nghymru er mwyn i ysgolion allu defnyddio’r adnoddau at eu dibenion addysgol eu hunain.

 

Yn ystod yr ymweliadau hyn trafodir gwahanol faterion yn ymwneud ag addysg diogelwch tân, megis peryglon yn y cartref, chwarae gyda matsis, a beth i’w wneud os oes argyfwng.

 

Gan siarad ar ran y tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru, dywedodd yr Uwch Reolwr Diogelwch Tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Stuart Millington: “Mae’r prosiect hwn yn cydnabod ei bod hi’n ddyletswydd arnom fel gwasanaethau tân ac achub nid yn unig i ymdrin â materion diogelwch tân ond hefyd i fynd i’r afael â phroblemau gwrthgymdeithasol eraill megis yfed dan oed, pwysau gan gyfoedion, ac effeithiau’r cyfryngau cymdeithasol – a thynnir sylw at bob un o’r pynciau hyn yn y DVD newydd hwn.

 

“Yn y blynyddoedd diweddar, mae adrannau addysg y tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru wedi bod yn sylfaen i’r gwaith atal tanau a wneir ledled Cymru.

 

“Mae plant mor ifanc â phum mlwydd oed yn derbyn addysg diogelwch tân, a byddant yn ei dderbyn yn gyson drwy gydol eu gyrfaoedd academaidd hyd at TGAU a Lefel A. Ac am y tro cyntaf maent hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn rhaglen newydd sbon sy’n ymwneud â diogelwch tân fel rhan o Fagloriaeth Cymru.

 

“Mae Tanni mor llwyddiannus gyda phlant fel ein bod yn wirioneddol falch o’n masgot – ac i gydnabod hyn, mae ein cymeriad annwyl wedi cael ei gweddnewid ar gyfer y dyfodol. Edrychwn ymlaen at weld yr adnoddau newydd yn cael eu defnyddio mewn ysgolion ledled Cymru.”

 

Cafodd yr adnoddau addysgol newydd eu lansio ddoe (14eg Hydref) yn Ysgol Nant y Coed, Cyffordd Llandudno.

 

Bydd y ffilm ‘Noson i’w Chofio’ yn cael ei dangos am y tro cyntaf yn nes ymlaen yn y flwyddyn – cofiwch gadw golwg ar ein gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen