Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Wythnos Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb Cymru Gyfan

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb sy’n rhedeg o’r 10fed i’r 17eg o Hydref, 2015.

 

Rydym yn gwybod bod rhai pobl yng Nghymru yn fwy tebygol o gael eu bwlio neu eu cam-drin oherwydd pwy yr ydyn’ nhw; yn seiliedig ar ragfarn yn erbyn eu hunaniaeth. Mewn ymateb i hyn mae Llywodraeth Cymru wedi creu wythnos Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb Cymru Gyfan i gynyddu dealltwriaeth ac annog dioddefwyr i adrodd am unrhyw ddigwyddiadau.

 

Mae Cyngor Wrecsam a phartneriaid ledled Gogledd Cymru wedi dod at ei gilydd i amlygu materion trosedd casineb a hyrwyddo adrodd i’r Heddlu a Cymorth i Ddioddefwyr.

 

Meddai Cynghorydd Wrecsam Hugh Jones YH, Aelod Cymunedau, Partneriaethau a Chydweithredu a Chadeirydd Bwrdd Cymunedau Diogelach Gogledd Cymru: “Rydym yn gwybod bod tan-adrodd arwyddocaol o Droseddau Casineb ac rydym eisiau delio â hyn trwy gynyddu ymwybyddiaeth a rhoi sicrhad i ddioddefwyr na ddylent ddioddef yn dawel. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru yn parhau i godi proffil y mater pwysig hwn ac rwy’n hyderus y medrwn, trwy waith partneriaeth, wneud gwahaniaeth go iawn.”

 

Mae trosedd casineb yn drosedd yn erbyn unigolyn yn seiliedig ar eu hunaniaeth, neu wahaniaeth ymddangosiadol. Efallai y bydd dioddefwyr wedi eu bwlio, neu eu camdrin oherwydd pwy ‘rydynt, eu cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, ethnigrwydd neu sut mae rhywun yn dewis byw. Gall y drosedd fod yn gam-drin geiriol, graffiti anweddus, bygythiadau, difrod i eiddo, ymosodiad, seibr-fwlio, negeseuon testun, ebostiau neu alwadau ffôn treisgar.

 

Os ydych chi wedi cael eich bwlio, eich poenydio neu eich cam-drin oherwydd pwy rydych chi, neu’r hyn y mae rhywun yn meddwl rydych chi, yna mae’n gasineb sy’n seiliedig ar hunaniaeth.

 

I ddelio â throsedd casineb mewn gwirionedd, mae angen cynyddu adroddiadau. Oni fydd mwyafrif y troseddau hyn yn cael eu hadrodd ni fyddwn byth yn cael darlun gwirioneddol o’r broblem, ac ni fydd unrhyw beth yn newid. I adrodd am Drosedd Casineb:

 

  • Ffoniwch yr Heddlu ar unwaith trwy ffonio 999 os ydych mewn perygl uniongyrchol, neu 101 mewn sefyllfa nad yw’n argyfwng, neu
  • Ffoniwch: 0300 30 31 982 [am ddim, 24/7] i gysylltu â Chymorth i Ddioddefwyr yn uniongyrchol. Caiff galwadau eu trin yn gyfrinachol a chewch aros yn ddi-enw os dymunwch hynny.
  • Medrwch hefyd adrodd arlein yn www.reporthate.victimsupport.org.uk
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen