Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

“Noson i’w Chofio” – ffilm newydd am ddiogelwch tân yn cael ei dangos am y tro cyntaf ledled Cymru

Postiwyd

Daeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru at ei gilydd i ganolbwyntio ar ffyrdd o dargedu pobl ifanc mewn ysgolion er mwyn ceisio gostwng nifer y tanau a gwella diogelwch tân, boed hynny gartref neu yn yr awyr agored, yn danau damweiniol neu danau bwriadol.

Ar ôl misoedd o waith datblygu ar y cyd, mae casgliad o adnoddau addysgol newydd ac arloesol yn cael ei lansio mewn ysgolion yng Nghymru yn ystod yr hydref.

Mae’r adnoddau’n cynnwys llyfrau gwaith a byrddau stori i gynorthwyo gyda’r gwaith o addysgu ynglŷn â diogelwch tân, a bu’r tri gwasanaeth tân ac achub yn gweithio’n agos â Cwmni Da, y cwmni teledu o’r gogledd, i greu ffilm am ddiogelwch tân sy’n mynd i’r afael â nifer o faterion sydd wedi peri pryder i’r gwasanaethau brys yn y gorffennol.

Bydd y fideo ‘Noson i’w Chofio’ yn cael ei anelu at gynulleidfaoedd yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 o fis Hydref ymlaen. Bydd y ffilm uniongyrchol a gonest yn ymdrin ag amrywiaeth o broblemau sy’n gyffredin ymysg y grŵp oedran hwn, megis yfed dan oed, pwysau gan gyfoedion, effeithiau’r cyfryngau cymdeithasol, bwlio ac ymddygiad byrbwyll.

Gan siarad ar ran bob un o’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru, dywedodd Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae’r prosiect hwn yn cydnabod ei bod hi nid yn unig yn ddyletswydd arnom ni fel gwasanaethau tân ac achub i ymdrin â materion diogelwch tân ond hefyd i fynd i’r afael â phroblemau gwrthgymdeithasol eraill megis yfed dan oed, pwysau gan gyfoedion, ac effeithiau’r cyfryngau cymdeithasol – a thynnir sylw at bob un o’r pynciau hyn yn y DVD newydd hwn.

“Bu ein haddysgwyr yn gweithio’n agos â Cwmni Da i greu’r ffilm a fydd yn cael ei defnyddio ledled Cymru mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4, gan roi cip nid yn unig ar beryglon ymddygiad byrbwyll ond hefyd beth yw canlyniadau’r gweithredoedd hynny a sut y maent yn effeithio ar y bobl dan sylw.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen