Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio am nwy gwersylla yn dilyn ffrwydrad yng Nghaergybi

Postiwyd

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhybuddio trigolion i gymryd pwyll arbennig wrth ddefnyddio offer gwersylla nwy yn ystod toriadau pwer wedi i ffrwydrad achosi difrod i dy yng Nghaergybi.

 

Galwyd y gwasanaethau brys i dy yn Snowdon View Road, Bae Trearddur am 2.22pm Ddydd Sadwrn y 10fed o Ionawr.

 

Roedd toriad pwer yn yr ardal a bu i stôf wersylla,  a oedd wedi ei diffodd a'i gafael ar hob popty trydan, ffrwydro unwaith y cafodd y pwer ei adfer

 

Roedd y ty yn wag ar adeg y ffrwydrad a ni chafodd unrhyw un ei anafu. Fodd bynnag, fe achoswyd difrod sylweddol i'r drysau a'r ffenestri.

 

Meddai Brian Williams, Rheolwr y Tîm Diogelwch Cymunedol; "Mae'n bosib y byddwn yn dioddef toriadau pwer yn ystod y tywydd stormus sydd yn digwydd ar hyn o bryd, ac felly rydym yn eich atgoffa i ddiffodd offer gwersylla nwy a'u cadw mewn man diogel pan nad ydynt yn cael eu defnyddio ac i beidio â gosod cyfarpar nwy ar gyfarpar trydan."

 

Fe anfonwyd dau beiriant o Gaergybi i'r digwyddiad."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen