Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd diogelwch tân yn dilyn tanau yng Ngogledd Cymru

Postiwyd

 

Heddiw mae diffoddwyr tan wedi cyhoeddi rhybudd pwysig ynglyn â pheryglon gadael matsis a thanwyr yn ddi-hid o gwmpas y cartref yn dilyn nifer o danau yng Ngogledd Cymru.

 

Mae'n criwiau wedi cael eu galw  i 12 o ddigwyddiadau yng Ngogledd Cymru  dros y pedwar mis diwethaf oherwydd bod plant a phobl ifanc wedi bod yn chwarae gyda matsis neu danwyr.

 

Meddai Terry Williams, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: "Yn aml iawn mae diffoddwyr tân yn cael eu galw i ddigwyddiadau oherwydd bod plant wedi bod yn chwarae gyda matsis neu danwyr heb sylweddoli'r perygl o dân. Mae diffoddwyr tân hefyd yn cael eu galw i danau bwriadol sydd wedi eu hachosi oherwydd bod plant a phobl ifanc wedi cynnau tanau heb sylweddoli pa mor beryglus yw'r math yma o ddigwyddiadau.

"Yn aml iawn mae gan blant ddiddordeb mewn chwarae gyda phethau nad ydynt yn gyfarwydd â hwy. Ein nod yw rhybuddio rhieni, plant a phobl ifanc ynglyn â pheryglon tanau ac annog teuluoedd i drafod diogelwch tân gyda'u plant.

Dyma gamau y gallwch eu cymryd yn y cartref i gadw'ch plant yn ddiogel:

  • peidiwch â gadael plant ar eu pennau eu hunain mewn ystafell lle mae peryglon tân yn bresennol
  • cadwch fatsis, danwyr a chanhwyllau ymhell o gyrraedd plant  - a gosodwch gloeon ar gypyrddau
  • gosodwch gard tân o flaen tanau neu wresogyddion
  • peidiwch â gadael i blant chwarae  neu adael teganau ger tanau neu wresogyddion
  • cadwch wresogyddion cludadwy mewn man diogel lle na allant gael eu troi drosodd pan fyddant yn cael eu defnyddio neu storio
  • peidiwch â gadael plant yn y gegin ar eu pennau eu hunain pan fyddwch yn coginio a peidiwch â gadael iddynt chwarae fer y popty
  • gwnewch yn siwr eich bod yn diffodd  bod cyfarpar trydan pan nad ydynt yn cael eu defnyddio

 

Dywedwch wrth blant a phobl ifanc:

  • i ddweud wrth oedolyn os byddant yn gweld matsis neu danwyr o gwmpas y lle
  • i beidio byth â chwarae gyda matsis, tanwyr neu ganhwyllau sydd ynghyn
  • i beidio â chwarae neu adael teganau ger tanau neu wresogyddion
  • i beidio â gosod dim byd ar wresogyddion neu oleuadau
  • i beidio â thynnu ar geblau trydan neu chwarae gyda chyfarpar trydan neu socedi
  • i beidio â throi'r popty ymlaen neu roi dim byd ar ei ben
  • i beidio byth â chyffwrdd sosbenni ar y popty

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim, lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref i rannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg newydd - a'r cyfan am ddim. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.

 

I gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim, galwch ein llinell rhadffôn dwyieithog 24 awr 0800 169 1234 neu ewch i www.larwmmwgamddim.co.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen