Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cwpl oedrannus yn dianc o dân yn y Rhyl

Postiwyd

 

Cafodd cwpl oedrannus ddihangfa lwcus yn dilyn tân yn eu cartref.

 

Cafodd dau beiriant ei anfon o'r Rhyl i'r digwyddiad am 20.22 o'r gloch Ddydd Sul (11eg Ionawr), ac roedd y tân dan reolaeth erbyn 20.49 o'r gloch.

 

Llwyddodd y cwpl i fynd allan o'r adeilad cyn i'r gwasanaeth tân ac achub gyrraedd.

 

Credir bod y tân wedi ei achosi gan liain sychu llestri a oedd wedi cael ei roi yn y ficrodon, ac wedi gorboethi o ganlyniad.  Cafodd y lliain ei roi mewn bag plastig, ac fe achosodd gwres y lliain i'r bag plastig fynd ar dân. Fe ledaenodd y tân i ddwy ystafell yn yr eiddo.

 

Ni ledaenodd y tân ymhellach na'r gegin a'r ystafell haul.

 

Meddai Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch y Sir:

 

"Roedd y trigolion hyn yn lwcus iawn eu bod wedi llwyddo i fynd allan yn ddianaf ar y cyfan. Cafodd y dyn driniaeth ragofalol gan barafeddygon.  Mae'n hynod bwysig eich bod yn defnyddio cyfarpar trydan yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ac nad ydych yn eu camddefnyddio; fe all eitemau orboethi yn hawdd iawn yn y ficrodon oni bai eich bod yn cymryd gofal."

 

"Roedd y cwpl yn ffodus iawn eu bod wedi derbyn rhybudd gan larwm mwg, a oedd wedi ei osod gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dilyn archwiliad diogelwch tân yn y cartref ym mis Mawrth y llynedd, a'u galluogodd i ddianc yn ddianaf. Mae'r digwyddiad yn dangos pa mor bwysig yw hi i bobl osod larymau mwg a'u profi yn rheolaidd - unwaith yr wythnos yw ein cyngor ni."

 

Mae larymau mwg yn achub bywydau. Am ragor o wybodaeth am ddiogelwch tân ac am gyfle i gael gosod larymau mwg yn rhad ac am ddim yn eich cartref, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim.

 

I gofrestru, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.ukl neu anfonwch neges destun i 88365, gan ddechrau'r neges gyda'r gair HFSC. Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter gan ddefnyddio #DyddMawrthProfi i gael negeseuon fydd yn eich hatgoffa i brofi'ch larwm mwg

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen