Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd tanau gwair i ffermwyr

Postiwyd

Diolch i'r tywydd cynnes, mae llawer o ffermwyr ledled y rhanbarth wedi cael cynhaeaf da eleni - mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn apelio iddynt i gymryd camau syml i sicrhau nad yw eu gwaith caled yn mynd i'r gwellt.

Ers mis Ebrill, mae diffoddwyr tân yng Ngogledd Cymru wedi eu galw i 10 o danau yn ymwneud â gwair yn ymlosgi'n ddigymell.

Mae Brian Williams o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn esbonio mwy: "Gan fod llawer wedi cael blwyddyn dda yn trin gwair, gall hyn arwain at fwy o fyrnau gwair yn cael eu cadw mewn mannau cyfyng; felly mae mwy o berygl o gael tasau gwair yn ymlosgi'n ddigymell.

"Mae tân yn bosibl mewn gwair boed yn rhydd, wedi ei fyrnio, ei storio dan do neu yn yr awyr agored. Mae tanau gwair yn berygl ar unrhyw adeg, ond mewn teisi mae cynnwys lleithedd y gwair yn 20 y cant neu'n uwch, ac mewn byrnau mewn teisi mawrion mae cynnwys lleithedd y gwair yn fwy nag 16 y cant."

Mae tanau gwair yn digwydd fel rheol o fewn chwe wythnos i'w byrnu, ac mae Brian yn gwneud yr awgrymiadau canlynol i leihau perygl tân:

"Mae'n hanfodol edrych ar y teisi gwair bob dydd - os ydych yn sylwi ar arogl caramel ysgafn neu arogl llwydaidd pendant, mae'n ddigon posibl bod eich tas yn cynhesu," meddai.

"Ar yr adeg hon, bydd gofyn i chi fonitro tymheredd y gwair. Ar 55c mae adwaith cemegol yn dechrau cynhyrchu nwyon fflamychol a fedr danio os aiff y tymheredd yn ddigon uchel."

Mae gwresogi yn digwydd mewn gwair uwchben 15 y cant lleithedd, ac yn gyffredinol mae ar ei anterth ar 51c i 54c mewn tri i saith niwrnod gyda risg bychan o amlosgi neu golli ansawdd porthiant. Yna dylai'r tymheredd yn y das ostwng i lefelau diogel yn y 15 i 60 diwrnod nesaf, yn dibynnu ar ddwysedd y byrnau a'r das, tymheredd amgylchynol ac unrhyw ddŵr glaw y mae'r gwair wedi ei amsguno.

Ychwanegodd Brian: "Eleni, gall fod yn ddoeth ystyried peidio â rhoi'r cynhaeaf cyfan mewn un man yn yr iard neu'r cae. Os bydd yn cynhesu i'r pwynt lle mae'n achosi tân, nid ydych eisiau colli'r cynhaeaf cyfan. Gall tanau niweidio neu ddinistrio gwair, ysguboriaid a chostio miloedd o bunnau.

"Os oes tân, ffoniwch am y gwasanaeth tân ac achub ar unwaith. Peidiwch â symud y gwair o gwbl. Byddai hyn yn golygu bod y gwair poeth neu wair sy'n mudlosgi yn cael ocsigen ac yn arwain at dân sydd allan o reolaeth."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen