Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Streicio pellach gan ddiffoddwyr tân – ceisiwch beidio â bod yn foddog a pharhau i ‘gymryd pwyll arbennig’

Postiwyd

Mae Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog y cyhoedd ledled Gogledd Cymru i beidio â mynd yn foddog wrth i streic y diffoddwyr tân barhau- a chofio'cymryd pwyll arbennig'yn y cartref ac ar y ffyrdd.

Daw'r cais ar ôl cyhoeddiad Undeb y Brigadau Tan y bydd diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu'n ddiwydiannol eto yr wythnos nesaf, yn dechrau ar ddydd Sadwrn 9fed Awst hyd at ddydd Sadwrn 16eg Awst, gyda streicio dyddiol o hanner dydd tan 2pm ac o ychydig cyn 11pm hyd at ychydig cyn hanner nos.

Pwysleisiodd y Prif Swyddog Tân, Simon Smith: "Dyma'r ail gyfres o streicio ysbeidiol, dros gyfnod hirach, ac mae perygl gwirioneddol y bydd pobl, wrth iddynt fyw eu bywydau bob dydd, yn dechrau cymryd llai o sylw o'n cyngor ar ddiogelwch - ond mae'r risg i'r cyhoedd yn aros yn uchel ac felly rwy'n gofyn i bobl fod yn arbennig o wyliadwrus ynglŷn â'u diogelwch.

"Mae lefel y cydweithrediad gan y cyhoedd hyd yma wedi bod yn wych, ac mae hyn yn amlwg wedi helpu gyda lefel y galw ar ein gwasanaethau - gofynnaf i bobl barhau i lynu at ein cyngor a chynnal yr un lefel o gydweithrediad trwy'r gyfres nesaf o streiciau.

"Mae talu sylw at ddiogelwch tân yn ac o gwmpas y cartref, ynghyd â diogelwch ar y ffordd, yn bwysicach fyth pan fydd ein hadnoddau wedi eu cyfyngu yn ystod
streic. Mae'r neges sydd yn erfyn ar i bobl gymryd pwyll arbennig a meddwl yn
ofalus am y math o sefyllfaoedd y gallant fod yn eu hwynebu yn neges ddifrifol
iawn. Yn anffodus, mae'n bosib na fyddwn yn gallu ymateb i alwadau mor gyflym
ag arfer yn ystod y streic - felly atal sydd orau, cadwch y rhagofalon tân canlynol
mewn cof er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi a'ch anwyliaid yn ddiogel:


Gwnewch yn siŵr bod gennych larwm mwg a phrofwch y larwm yn rheolaidd i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio - gosodwch un yn eich carafan cyn mynd ar wyliau.

  • Peidiwch ag yfed a choginio - gall arwain at drychineb. Os ydych eisiau rhywbeth i'w fwyta ar ôl noson allan, ewch am bryd parod neu frechdan - peidiwch â dechrau coginio sglodion neu adael bwyd yn coginio.
  • Peidiwch ag yfed a gyrru - cerddwch, gofynnwch am bás, ewch mewn tacsi neu trefnwch yrrwr os oes grŵp ohonoch a chymryd eich tro i yrru. Talwch sylw arbennig i ddiogelwch ar y ffordd - os ydych yn ddigon anffodus i fod mewn gwrthdrawiad ffordd, efallai na fedrwn eich cyrraedd mor gyflym ag y medrwn fel rheol.
  • Peidiwch â choginio ar y barbeciw ac yfed ar yr un pryd - disgwyliwch hyd nes i chi orffen coginio cyn mwynhau llymaid, a pheidiwch â defnyddio hylifau fflamadwy i gynnau neu adfer barbiciw. Peidiwch â'u gadael heb neb i gadw llygaid arnynt a gadewch i'r colsion oeri cyn cael gwared arnynt
  • Diffoddwch  unrhyw gyfarpar trydanol nad ydych yn ei ddefnyddio cyn i chi fynd i'r gwely a chaewch bob drws - gwnewch yn siŵr bod gennych gynllun dianc o dân
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn diffodd defnyddiau ysmygu yn iawn a chymrwch bwyll gyda fflamau agored.
  • Gall tanau glaswellt ledaenu'n gyflym iawn yn ystod tywydd sych.  Maent yn
    peryglu bywydau ac eiddo felly peidiwch â defnyddio fflamau agored pan fyddwch ar eich hynt a chymrwch bwyll wrth gael gwared ar ddeunyddiau ysmygu.
  • Cofiwch fod cynnau tanau bwriadol yn drosedd - os oes gennych wybodaeth am danau bwriadol galwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
  • Os bydd tân - ewch allan, arhoswch allan a galwch 999.  Peidiwch â chael eich
    temtio  i ddiffodd y tân eich hun


Mae cyngor diogelwch a chyfarwyddyd ar gael i'r cyhoedd a busnesau ar wefan
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru www.gwastan-gogcymru.org.uk
a'n safleoedd rhwydweithio cymdeithasol ar Facebook www.facebook.com/Northwalesfireservicea Twitter @NorthWalesFire (#takeextracare), yn ogystal â'r newyddion lleol.


Y mae  disgwyl i nifer uchel o ddiffoddwyr tân y gwasanaeth tân ac achub brotestio drwy fynd ar streic ac felly bydd gostyngiad yn yr adnoddau fydd ar gael i ni.  O ganlyniad, ni fydd yn bosib i'r gwasanaeth tân ac achub ddarparu
gwasanaeth brys o'r un safon ag arfer - byddwn yn parhau i ymateb i alwadau
brys ond byddwn yn rhoi blaenoriaeth i ddigwyddiadau lle mae bywydau yn y
fantol.  

Bu i'r Prif Swyddog Tân Simon Smith gysuro'r cyhoedd: "Y mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru drefniadau ar waith i barhau i ddarparu gwasanaeth  drwy gydol y streic" ond fe rybuddiodd,  "mae'n bosib y bydd y gwasanaeth yn gyfyngedig ar adegau dan yr amgylchiadau".

"Bydd trefniadau parhad busnes y Gwasanaeth yn helpu i adfer y gwasanaethau
arferol yn ddiogel a chyflym wedi'r cyfnod o weithredu diwydiannol."

Meddai'r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Tra rydym yn deall pryderon y staff sydd wedi arwain at eu penderfyniad i brotestio yn y modd hwn, mae gennym ddyletswydd a rhwymedigaeth i wneud yn siŵr na fydd hyn yn effeithio ar y gwasanaeth a ddarperir i'r cyhoedd, cyn belled â bod hynny'n ymarferol bosib. Anghydfod rhwng Undeb y Brigadau Tân a'r Llywodraeth yng Nghymru a Lloegr yw hon ynglŷn â newidiadau arfaethedig i drefniadau pensiwn. Ond, ein blaenoriaeth ni yw sicrhau diogelwch y cyhoedd."

Gofynnir i unrhyw un sydd angen galw'r gwasanaeth tân ac achub yn ystod y streic  mewn perthynas â mater nad ydyw'n fater brys i ystyried aros hyd nes i'r streic orffen cyn gwneud yr alwad honno.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen