Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lansio’r ymgyrch ‘Peidiwch â’n gwahodd i ginio!’ yn Sir Ddinbych

Postiwyd

MaeGwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn lansio'r ymgyrch 'Peidiwch â'n gwahodd i ginio - Meddwl yn Ddiogel, Coginio'n Ddiogel!' yn sir Ddinbych ddydd Gwener er mwyn helpu i leihau nifer y tanau coginio yn yr ardal ac addysgu trigolion lleol am bwysigrwydd coginio'n ddiogel.

Coginio yw un o brif achosion tanau damweiniol yn y cartref yng Ngogledd Cymru -  nod yr ymgyrch yw amlygu peryglon gadael bwyd yn coginio ac y mae'r ymgyrch yn barhad o'r ymgyrchoedd llwyddiannus a gynhaliwyd eisoes yn Wrecsam, Sir y Fflint,  Gogledd Gwynedd a Chonwy.

Anghofio diffodd y pentan, gadael bwyd yn y ficrodon yn rhy hir, gorboethi'ch sosban sglodion, llosgi tost, anghofio diffodd y popty  - gall pob un o'r rhain fod yn drychinebus yn y gegin a gallant achosi anafiadau difrifol neu, yn fwy difrifol byth, ladd rhywun.

Dyma pam y bydd diffoddwyr tân yn mynd o ardal i ardal dros y misoedd nesaf i siarad gyda siopwyr yng Nghonwy am sut i gadw'n ddiogel yn y gegin.  Byddant yn rhannu amseryddion cegin ac yn annog pobl i gadw'n ddiogel yn y gegin ac i gofio cadw llygaid ar y cloc wrth baratoi bwyd.

Bydd cyfle i bobl brofi'r hyn y maent yn ei wybod am ddiogelwch tân drwy gymryd rhan yn ein cwis diogelwch coginio. Bydd un enillydd lwcus yn derbyn gwerth £100 o dalebau archfarchnad.

Bydd cwis coginio ar-lein hefyd yn helpu'r rhai na all ddod i'n gweld yn yr archfarchnadoedd ddysgu mwy am ddiogelwch yn y gegin yn ogystal â rhoi cyfle iddynt gymryd rhan yn ein cystadleuaeth.

Meddai Gwyn Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'n gyfrifoldeb arnom ni i amlygu nifer yr achosion uchel o danau yn y cartref a gwneud yn siŵr bod pobl yn gwrando ar ein negeseuon -  ond yn y diwedd allwn ni ddim gwneud mwy na chynnig cyngor, mae gofyn i chwi'r unigolyn newid eich arferion a gwrando ar y cyngor hwnnw.

"Dro ar ôl tro rydym yn cael ei galw i danau yn y cartref sydd wedi cychwyn yn y gegin - mae'n hawdd iawn anghofio am fwyd sy'n coginio, yn enwedig os ydych wedi blino, ddim yn canolbwyntio neu os ydych wedi bod yn yfed.  Ond gall hyn arwain at ganlyniadau difrifol.  Dydyn ni ddim eisiau cael ei gwahodd i ginio gyda chi a diffodd tân yn eich cegin!

"Felly cymrwch sylw o'n ymgyrch, dewch draw i'n gweld yn eich archfarchnad leol - cewch amserydd cegin defnyddiol iawn a chyfle i ennill gwerth £100 o dalebau archfarchnad.  Os na ydyw'n bosib i chwi ddod draw i'n gweld, cymrwch ran yn ein cwis ar lein drwy fynd i www.facebook.com/Northwalesfireservice.

"A pheidiwch ag anghofio - mae larymau mwg yn achub bywydau.  Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234.

 

 

Dyma air i gall gan Gwyn ar sut i gadw'n ddiogel yn y gegin:

 

  • Os oes rhaid i chi adael y gegin, tynnwch y bwyd oddi ar y gwres
  • Peidiwch â defnyddio matsis a thanwyr i danio poptai nwy. Mae dyfeisiadau tanio yn llawer mwy diogel
  • Gwnewch yn siŵr nad ydy coesau'ch sosbenni yn mynd dros ymyl y popty
  • Cadwch eich popty, pentan a gridyll yn lân - gall saim a braster sydd wedi casglu fynd ar dân yn hawdd iawn
  • Peidiwch â hongian dim byd uwch ben eich popty
  • Cymrwch ofal os ydych chi'n gwisgo dillad llac - gallant fynd ar dân yn hawdd iawn
  • Ar ôl i chi orffen coginio gwnewch yn siŵr bod popeth wedi ei ddiffodd
  • Diffoddwch gyfarpar trydanol pan nad ydych yn eu defnyddio
  • Peidiwch byth â defnyddio sosbenni sglodion - defnyddiwch frïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli'r gwres
  • Gosodwch larymau mwg yn eich cartref - maent ar gael yn rhad ac am ddim a gallant achub eich bywyd.

 

 

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn yr archfarchnadoedd canlynol ar y dyddiadau isod (10am-3pm);

 

22 Awst - Morrisons, Dinbych

5 Medi - Tesco, Rhuthun

12 Medi - Morrisons, Dinbych

26 Medi - Morrisons, Y Rhyl

3 Hydref - Tesco, Rhuthun

17 Hydref - Sainsbury's, Y Rhyl

 

I gymryd rhan yn ein cwis ar-lein ewch i www.facebook.com/Northwalesfireservice>. I gael gwybod mwy am yr ymgyrch, chwiliwch #wedontwanttocomedinewithyou ar Twitter.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen