Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl i adrodd am unigolion sy’n cynnau tanau’n fwriadol wedi i nifer o danau gael eu cynnau yn ardal Gwersyllt, Wrecsam

Postiwyd

Mae Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol y Gogledd yn efryn ar drigolion i roi terfyn ar danau bwriadol wedi i nifer o danau gael eu cynnau yn ardal Gwersyllt dros y dyddiau diwethaf.

Cafodd diffoddwyr tân eu galw i 6 digwyddiad mewn 4 diwrnod - yn gyntaf, cawsant eu galw i danau bwriadol mewn biniau olwyn ar First Avenue a Wheatsheaf Lane am 02.44 o'r gloch fore dydd Mercher diwethaf, 6ed Awst.  Yna am 00.28 o'r gloch fore dydd Iau, 7fed Awst, cawsant eu galw i dân bwriadol mewn gwrych a oedd wedi lledaenu 10 metr. Am 23.18 o'r gloch nos Wener, 8fed Awst, cawsant eu galw i ddiffodd tân mewn coeden ar  Heol Y Coed. Nos Sadwrn, 9fed Awst, cawsant eu galw i daclo tân bwriadol mewn coed coniffer a phaletau pren, ac yn ystod oriau mân y bore canlynol am 02.58 o'r gloch cawsant eu galw i ddelio gyda ffens a oedd ar dân - credir bod y digwyddiad hwn yn gysylltiedig â'r digwyddiad blaenorol.

Meddai Kevin Jones, Rheolwr y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol: "Mae'r math yma o ymddygiad anghymdeithasol yn gwbl annerbyniol ac rydym yn erfyn ar y gymuned i adrodd am unigolion sy'n cynnau tanau'n fwriadol.

"Mae tanau bwriadol yn rhoi pwysau eithriadol ar ein hadnoddau. Yn aml iawn maent yn treulio amser maith yn ceisio dod â'r tanau hyn dan reolaeth sydd yn eu hatal rhag mynychu digwyddiadau eraill lle mae bywydau yn y fantol.

"Digwyddodd un o'r tanau hyn pan oedd diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr ar streic - mae ein hadnoddau yn brin ar yr adegau hyn ac fe roddodd y drwgweithredwyr hyn fywydau mewn perygl."

Y mae disgwyl i ddiffoddwyr tân streicio'n ddyddiol rhwng 12pm - 2pm ac ychydig cyn 11pm at ychydig cyn nos, tan nos Sadwrn, Awst 16eg.

Mae'r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael â'r broblem yn yr ardal leol, drwy rannu taflenni  ymhlith trigolion i apelio am wybodaeth ac y mae Swyddogion Cymorth  Cymunedol yr Heddlu wedi bob yn mynd o dŷ i dŷ. Mae arwyddion atal llosgwyr wedi eu codi yn yr ardal sydd yn hysbysebu rhif Crimestoppers ac mae dau weithiwr ieuenctid o'r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol wedi bod yn gweithio yn yr ardal.

Fe ychwanegodd Kevin: "Gall y math yma o ymddygiad arwain at ganlyniadau angheuol ac rydym yn gweithio'n agos gyda'r Heddlu a'n partneriaid i geisio mynd i'r afael â'r broblem.  Hoffwn erfyn ar unrhyw un sydd gan wybodaeth am y math yma o droseddau i gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru.

Anogir unrhyw un sydd gan wybodaeth mewn perthynas â chynnau tanau yn fwriadol i gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu'n ddienw drwy ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen