Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl i osod larymau mwg gweithredol mewn cartrefi wedi i deulu o Gaergybi gael dihangfa lwcus

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn amlygu pwysigrwydd synwyryddion mwg wedi i deulu ddianc o dân yn  eu cartref ar Stryd Wian, Caergybi am 21.52 o'r gloch neithiwr, Nos Sul, Awst 10fed.

Fe seiniodd y larymau mwg wedi i dân gynnau yn yr ystafell fyw.  Llwyddodd y preswylwyr - mam a phedwar o blant dan bump oed -i ddianc yn ddiogel ond aethpwyd â hwy i'r ysbyty am driniaeth oherwydd eu bod wedi anadlu mwg. Maent wedi cael eu rhyddhau erbyn hyn.

Fe achosodd y tân ddifrod mwg difrifol yn yr ystafell fyw a threiddiodd y mwg i weddill yr adeilad yn ogystal.

Credir bod y tân wedi cynnau mewn cyfarpar i ddarparu rhagor o  sianeli teledu.

Dywedodd Geraint Hughes o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'r digwyddiad yn dyst i allu larymau mwg i achub bywydau - oni bai bod y larymau mwg wedi rhybuddio'r teulu am y tân gallem fod wedi bod yn delio gyda digwyddiad trychinebus arall ac mae'n bosib y byddai sawl un wedi marw yn y tân.

"Hoffwn annog pobl i osod larymau mwg gweithredol yn eu cartrefi oherwydd eu bod â'r gallu i achub eich bywyd chi a'ch anwyliaid.

"Fel canllaw cyffredinol i ddiogelwch yn y cartref, mae'n bwysig eich bod yn dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr yn fanwl wrth ddefnyddio unrhyw gyfarpar trydanol a bod cyfarpar sydd yn defnyddio gwifrau neu erialau yn cael eu gosod gan berson proffesiynol.

"Peidiwch â gosod offer teledu ar ben ei gilydd a pheidiwch â'u cadw mewn cwpwrdd caeedig. Peidiwch â gadael anifeiliaid anwes yn agos atynt a pheidiwch â gadael defnyddiau hylosg megis cylchgronau ger yr offer.

"Fel rhan o arferiad gyda'r nos i'ch cadw mor ddiogel â phosib rhag tân, rydym yn cynghori trigolion i ddiffodd unrhyw gyfarpar trydan sydd heb eu dylunio i gael eu gadael ymlaen, ac i gau pob drws er mwyn atal tân lledaeniad tân.

"Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim i bawb sydd yn byw yn y Gogledd.  Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnwys holl agweddau diogelwch tân yn y cartref megis darparu a gosod larymau mwg, pwysigrwydd cadw allanfeydd yn glir yn y cartref, diogelwch trydan ac arferion gyda'r nos.

"I gael gwybod mwy am ddiogelwch tân yn y cartref ac i gael gosod larymau mwg yn eich cartref, cofrestrwch am archwiliad diogelwch tân yn y cartref drwy fynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk  neu galwch ein llinell rhadffôn ar 0800 169 1234."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen