Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwyr tân yn ymuno yn y streic sector cyhoeddus – annog y cyhoedd i ‘gymryd pwyll arbennig’

Postiwyd

Y mae Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymbil ar y cyhoedd unwaith yn rhagor i'gymryd pwyll arbennig'yn y cartref ac ar y ffordd wedi i Undeb y Brigadau Tân gyhoeddi y bydd diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu'n ddiwydiannol unwaith yn rhagor yr wythnos nesaf, dydd Iau 10fed Gorffennaf.

Bydd y streic ddiweddaraf dros yr anghydfod ynglŷn â phensiynau yn digwydd rhwng 10am a 7pm ar yr un diwrnod a'r achos o weithredu diwydiannol gan weithwyr llywodraeth leol, athrawon a gweision sifil ar draws y DU a hynny dros dâl, pensiynau a llwyth gwaith.

Fe bwysleisiodd y Prif Swyddog Tân, Simon Smith: "Y tro hwn bydd diffoddwyr tân a gweithwyr sector cyhoeddus eraill , yn cynnwys aelodau staff ychwanegol y gwasanaeth tân ac achub, yn rhan o anghydfod cydlynol a fydd yn creu aflonyddwch ehangach. Y mae hyn yn golygu y bydd y cyhoedd mewn mwy o berygl, ac felly mae'n bwysicach fyth eu bod yn cymryd pwyll.

"Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad ac am wrando ar ein cyngor yn ystod y streiciau blaenorol, sydd yn amlwg wedi gwneud gwahaniaeth yn y galw am wasanaeth, a hoffwn ofyn i chwi gydweithredu yn yr un modd y tro hwn - nid oes lle i laesu dwylo wrth i ddiffoddwyr tân ymuno gyda gweithwyr sector cyhoeddus eraill, ac y mae'r pwyslais ar gymryd pwyll arbennig yn fwy pwysig nag erioed.

"Mae'r streic yn digwydd ar yr un diwrnod a'r achos o weithredu gan weithwyr o wahanol undebau o bob cwr o'r DU  ac y mae'n digwydd ar adeg pan fydd pobl mewn perygl arbennig gan y byddant yn teithio i'r gwaith neu adref neu'n coginio pryd gyda'r nos - mae hyn yn golygu ei bod hi'n bwysig iawn i bobl gymryd sylw o ddiogelwch tân yn y cartref, yn ogystal â diogelwch ffyrdd.

Mae'r neges sydd yn erfyn ar i bobl gymryd pwyll arbennig a meddwl yn ofalus am y math o sefyllfaoedd y gallant fod yn eu hwynebu yn neges ddifrifol iawn. Yn anffodus, mae'n bosib na fyddwn yn gallu ymateb i alwadau mor gyflym ag arfer yn ystod y streic - felly atal sydd orau, cadwch y rhagofalon tân canlynol mewn cof er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi a'ch anwyliaid yn ddiogel;

  • * Gwnewch yn siŵr bod gennych larwm mwg a phrofwch y larwm yn rheolaidd i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio.
  • * Peidiwch â gadael bwyd yn coginio a pheidiwch ag yfed a choginio
  • * Ceisiwch osgoi siwrneiau diangen - os byddwch yn ddigon anffodus i ddioddef gwrthdrawiad ffordd mae'n bosib na fyddwn yn eich cyrraedd mor gyflym ag arfer
  • * Peidiwch â choginio ar y barbiciw ac yfed ar yr un pryd - disgwyliwch hyd nes i chi orffen coginio cyn mwynhau llymaid, a pheidiwch â defnyddio hylifau fflamadwy i gynnau neu adfer barbiciw.
  • * Dylai perchnogion busnesau adolygu eu Hasesiadau Risgiau Tân cyn y streic a sicrhau bod yr holl staff yn deall y gweithdrefnau i atal tanau.
  • * Peidiwch byth â defnyddio hylifau fflamadwy i ddechrau neu ailgynnau barbiciw, peidiwch â'u gadael heb neb i gadw llygaid arnynt a gadewch i'r colsion oeri cyn cael gwared arnynt
  • * Diffoddwch  unrhyw gyfarpar trydanol nad ydych yn ei ddefnyddio cyn i chi fynd i'r gwely a chaewch bob drws - gwnewch yn siŵr bod gennych gynllun dianc o dân
  • * Gwnewch yn siŵr eich bod yn diffodd defnyddiau ysmygu yn iawn a chymrwch bwyll gyda fflamau agored.
  • * Gall tanau glaswellt ledaenu'n gyflym iawn yn ystod tywydd sych.  Maent yn peryglu bywydau ac eiddo felly peidiwch â defnyddio fflamau agored pan fyddwch ar eich hynt a chymrwch bwyll wrth gael gwared ar ddeunyddiau ysmygu.
  • * Cofiwch fod cynnau tanau bwriadol yn drosedd - os oes gennych wybodaeth am danau bwriadol galwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
  • * Os bydd tân - ewch allan, arhoswch allan a galwch 999.  Peidiwch â chael eich temtio  i ddiffodd y tân eich hun

Mae cyngor diogelwch a chyfarwyddyd ar gael i'r cyhoedd a busnesau ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru www.gwastan-gogcymru.org.uk a'n safleoedd rhwydweithio cymdeithasol ar Facebook www.facebook.com/Northwalesfireservice a Twitter @NorthWalesFire (#takeextracare), yn ogystal â'r newyddion lleol.

Y mae  disgwyl i nifer uchel o ddiffoddwyr tân y gwasanaeth tân ac achub brotestio drwy fynd ar streic ac felly bydd gostyngiad yn yr adnoddau fydd ar gael i ni.  O ganlyniad, ni fydd yn bosib i'r gwasanaeth tân ac achub ddarparu gwasanaeth brys o'r un safon ag arfer - byddwn yn parhau i ymateb i alwadau brys ond byddwn yn rhoi blaenoriaeth i ddigwyddiadau lle mae bywydau yn y fantol.  

Bu i'r Prif Swyddog Tân Simon Smith gysuro'r cyhoedd: "Y mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru drefniadau ar waith i barhau i ddarparu gwasanaeth  drwy gydol y streic" ond fe rybuddiodd,  " mae'n bosib y bydd y gwasanaeth yn gyfyngedig ar adegau dan yr amgylchiadau".

" Bydd trefniadau parhad busnes y Gwasanaeth yn helpu i adfer y gwasanaethau arferol yn ddiogel a chyflym wedi'r cyfnod o weithredu diwydiannol."

Meddai'r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Tra bod Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gwerthfawrogi ac yn parchu pryderon y staff sydd wedi arwain at eu penderfyniad i brotestio yn y modd hwn, mae gennym ddyletswydd a rhwymedigaeth i wneud yn siŵr na fydd hyn yn effeithio ar y gwasanaeth a ddarperir i'r cyhoedd, cyn belled â bod hynny'n ymarferol bosib a prif flaenoriaeth yr Awdurdod yw sicrhau diogelwch y cyhoedd a chysondeb y gwasanaeth cyhoeddus."

Gofynnir i unrhyw un sydd angen ein galw'r gwasanaeth tân ac achub yn ystod y streic  mewn perthynas â mater nad ydyw'n fater brys i ystyried aros hyd nes i'r streic orffen cyn gwneud yr alwad honno.

Cliciwch yma i weld taflen ar ddiogelwch yn y cartref
Cliwich yma os ydych yn rhedeg busnes ac angen cyngor ar sut i gadw eich safle yn ddiogel rhag tân.

 

Mae streiciau pellach wedi eu trefnu ar gyfer y dyddiau canlynol

Dydd Llun 15 Gorffennaf : 6am-8am a 5pm-7pm

Dydd Mawrth 15 Gorffennaf: 6am-8am a 5pm-7pm

Dydd Mercher 16 Gorffennaf: 6am-8am a 5pm-7pm

Dydd Iau 17 Gorffennaf: 6am-8am a 5pm-7pm

Dydd Gwener 18 Gorffennaf: 6am-8am a 11pm-1am Dydd Sadwrn 19 Gorffennaf

Dydd Sadwrn 19 Gorffennaf: 11am-1pm a 11pm-1am Dydd Sul  20 Gorffennaf

Dydd Sul 20 Gorffennaf: 5pm-7pm

Dydd Llun 21 : 6am-8am a 5pm-7pm

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen