Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

‘Dychwelyd i wasanaeth arferol’ yn dilyn y streic olaf mewn cyfres o streiciau gan ddiffoddwyr tân

Postiwyd

Daeth y cyfnod olaf o weithredu diwydiannol mewn cyfres o streiciau ysbeidiol yng Nghymru a Lloegr i ben am 7pm heno (Dydd Llun 21ai)

Dyma oedd y streic ddiweddaraf i gael ei threfnu gan Undeb y Brigadau Tân (FBU) i brotestio yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer pensiynau.

Adroddodd y Prif Swyddog Tân Simon Smith bod y trefniadau a roddwyd yn eu lle gan Wasanaeth Tân ac Achub  Gogledd Cymru i barhau i ddarparu gwasanaeth wedi gweithio'n dda drwy gydol y streic.

"Fe weithiodd ein trefniadau parhad busnes yn effeithiol - fe wnaethom ymdopi'n dda er gwaetha'r lleihad yn ein hadnoddau yn ystod y streic a llwyddom i adfer y gwasanaeth arferol yn fuan wedi i'r streic orffen.

"Roedd nifer y galwadau a dderbyniodd ein hystafell reoli yn llawer iawn is na'r oeddem yn ei ddisgwyl a hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad ac am wrando ar ein negeseuon diogelwch.

"Er bod y streic ddiweddaraf wedi dod i ben, hoffwn eich atgoffa ei bod hi'n bwysig iawn i chi gadw diogelwch tân a ffyrdd mewn cof. Ni wyddwn eto a fydd Undeb y Brigadau Tân yn cyhoeddi rhagor o streiciau ac felly rwyf yn annog pawb i barhau i'gymryd pwyll arbennig'."

Mae cyngor ar sut i gadw'n ddiogel rhag tân yn y cartref ar gael drwy fynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk, @NorthWalesFire a www.facebook.com/Northwalesfireservice

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen