Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Annog carafanwyr a gwersyllwyr i gymryd pwyll wedi tân ym Mae Cinmel

Postiwyd

Mae gwersyllwyr a charafnawyr yn cael eu hannog i garafán gael ei dinistrio gan dân ar ôl digwyddiad yn ymwneud â choginio mewn gwersyllfa ym Mae Cinmel neithiwr (Nos Iau 1af Gorffennaf).  

Galwyd diffoddwyr tân o'r Rhyl i'r gwersyll am 6.45 o'r gloch neithiwr wedi i sosban sglodion gael ei gadael heb neb i gadw llygaid arni.  Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân offer anadlu a phibellau tro i ddiffodd y tân.

Llwyddodd pawb i fynd allan o'r garafán yn ddiogel ond cawsant driniaeth ragofalol gan barafeddygon yn y fan a'r lle.

Meddai Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch cymuned Conwy a Sir Ddinbych: "Oherwydd eu bod yn fannau cyfyngedig iawn mae llawer mwy o beryglon mewn carafanau a phebyll na sydd yn y cartref - felly mae'n bwysig nad ydych yn anghofio'r peryglon a'ch bod yn cadw cynghorion diogelwch tân mewn cof pan fyddwch ar eich gwyliau."

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynghori pobl sydd yn bwriadu mynd ar wyliau mewn carafán neu babell i gadw'r cynghorion canlynol mewn cof.

Byddwch barod:

-     Gwnewch yn siŵr bod carfanau a phebyll yn cael ei gosod o leiaf 6 medr oddi wrth ei gilydd.

-     Edrychwch i weld pa offer diffodd tân sydd ar gael ar y maes carafanio ac ymhle mae'r ffôn agosaf.

-     Gosodwch larwm mwg optegol yn eich carafán a gwnewch yn siŵr ei fod yn gweithio.

-     Cadwch dortsh wrth law rhag ofn bydd argyfwng. Peidiwch â defnyddio canhwyllau.

-     Gwnewch yn siŵr bod offer diffodd tân dwr neu bowdr sych sydd wedi ei wefru'n llawn yn eich carafán ger yr allanfa a phlaned dân yn y man coginio.

-     Peidiwch â gadael pant ar eu pennau eu hunain yn y garafán - a chadwch fatsis ymhell o'u cyrraedd.

-     Peidiwch â gorlwytho socedi trydan neu lidiau estyn pan fyddwch yn defnyddio'r cyflenwad drydan a gwnewch yn siŵr bod yr holl offer trydanol yn gweithio'n iawn

-     Gwnewch yn siŵr bod pawb yn gwybod sut i fynd allan

-     Cadwch hylifau fflamadwy a silindrau nwy ymhell o bebyll.

-     Peidiwch â choginio y tu mewn i'r babell.

-     Byddwch yn barod i dorri'r babell er mwyn mynd allan  yn ddiogel os bydd tân.

-     Os aiff eich dillad ar dân STOPIWCH, DISGYNNWCH A RHOLIWCH.

-     Ni ddylid defnyddio cyfarpar sydd yn llosgi olew mewn pebyll neu yn agos at bebyll.

-     Ni ddylid defnyddio offer coginio mewn pebyll bychan.

-     Peidiwch ag ysmygu mewn pebyll.

Os bydd tân:

-     Gwnewch y siŵr bod pawb yn mynd allan ar unwaith. Gall tanau ledaenu'n gyflym iawn mewn pebyll a  charafanau.

-     Galwch y gwasanaeth tân ac achub.

-     Rhowch y cyfeirnod map , os ydyw ar gael. Neu fel arall, rhowch wybodaeth am dirnodau amlwg yn yr ardal a all helpu'r gwasanaeth tân ac achub i ddod o hyd i chi, er enghraifft enw fferm neu dafarn.

Nwy potel:

-     Mae'n rhaid bod yn hynod ofalus wrth ddefnyddio silindrau nwy rhag ofn iddyn nhw ffrwydro ac achosi tân

-     Cadwch silindrau y tu allan i'r garafán oni bai bod system awyru arbennig y tu mewn.

-     Diffoddwr yr holl gyfarpar cyn mynd i'r gwely neu adael y garafán - dylid diffodd y silindr yn ogystal oni nai bod offer y gweld eu gadael ymlaen yn eu defnyddio e.e. oergelloedd

-     Peidiwch byth â choginio wrth deithio.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliad diogelwch yn y cartref yn rhad ac am ddim i bawb, yn cynnwys carafanwyr, ac rydym yn gosod larymau mwg os eos raid  - ffoniwch radffôn 0800 169 1234 neu anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen