Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

‘Dychwelyd i wasanaeth arferol’ wedi’r streic ddiweddaraf – ond rhagor o streiciau’r wythnos nesaf

Postiwyd

Daeth y streic saith awr gan ddiffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr i ben heno am 7pm (Nos Iau 10fed Gorffennaf).

Dyma oedd y streic ddiweddaraf gan Undeb y Brigadau Tân (FBU) mewn protest yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer pensiynau, a gynhaliwyd ar yr un pryd â'r streic a oedd wedi ei threfnu gan weithwyr sector cyhoeddus ar draws y DU.

Dywedodd y Prif Swyddog Tân Simon Smith bod y trefniadau a roddodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar waith wedi gweithio'n dda - ond rhybuddiodd bod yn rhaid i'r cyhoedd fod yn wyliadwrus gan y bydd diffoddwyr tân yn cynnal rhagor  o streiciau'r wythnos nesaf.

"Mae ein trefniadau parhad busnes yn gweithio'n effeithiol, ac rydym wedi ymdopi'n dda yn ystod y streiciau er bod gennym lai o adnoddau.

"Derbyniodd yr Ystafell Reoli lai o alwadau nag arfer yn ystod y streic a hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad ac am wrando ar ein negeseuon diogelwch.

"Ond rwyf yn efryn ar y cyhoedd i beidio â llaesu dwylo - mae 8 diwrnod o streiciau ysbeidiol o'm blaenau'r wythnos nesaf felly mae'n hanfodol ein bod yn parhau i 'gymryd pwyll arbennig'.

Mae'r streiciau fel a ganlyn;

• Dydd Llun 14 gorffennaf   6am-8am a 5pm-7pm
• Dydd Mawrth 15 Gorffennaf  6am-8am a 5pm-7pm
• Dydd Mercher 16 Gorffennaf  6am-8am a 5pm-7pm
• Dydd Iau 17 Gorffennaf    6am-8am a 5pm-7pm
• Dydd Gwener 18 Gorffennaf  6am-8am a 11pm-1am Ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf
• Dydd Sadwrn 19 Gorffennaf  11am-1pm a 11pm-1am Dydd Sul 20 Gorffennaf
• Dydd Sul                5pm-7pm
• Dydd Llun 21 Gorffennaf  6am-8am a 5pm-7pm

Am gyngor pellach ar sut i gadw'n ddiogel ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk, @NorthWalesFire a www.facebook.com/Northwalesfireservice .

Cliciwch yma i weld sut i gadw'n diogel rhag tân
Cliciwch yma i weld taflen ar ddiogelwch yn y cartref
Cliwich yma os ydych yn rhedeg busnes ac angen cyngor ar sut i gadw eich safle yn ddiogel rhag tân.

Cliciwch yma am wybodaeth diogelwch yn yr haf.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen