Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cadwch yn ddiogel wrth fwynhau Cwpan y Byd

Postiwyd

 

Mae twrnamaint Cwpan y Byd FIFA yn cychwyn ym Mrasil yr wythnos hon ac y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar i'r cyhoedd gadw diogelwch tân mewn cof wrth fwynhau'r gêm ogoneddus.

 

Meddai Gary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân:"Rydym am i'r gymuned leol gofio Cwpan y Byd 2014 am y rhesymau cywir, ac rydym yn erfyn ar bobl i ystyried eu diogelwch wrth fwynhau'r twrnamaint cyffrous.

 

"Defnyddiau coginio yw un o brif achosion tanau damweiniol yn y cartref - ac y mae cyfran uchel o'r tanau hyn wedi eu hachosi oherwydd bod y preswylwyr dan ddylanwad alcohol.

 

"Mae alcohol yn amharu ar eich synnwyr cyffredin a'ch gallu ac felly rydym yn apelio ar ddilynwyr pêl-droed i osgoi coginio neu goginio ar farbiciw os ydynt wedi bod yn yfed ac i feddwl am y math o bethau a all fynd â'u sylw ac achosi tân neu ladd neu anafu rhywun yn y cartref neu achosi gwrthdrawiad traffig ar y ffordd."

 

Dyma gyngor Gary:

·        Peidiwch ag yfed a choginio - cefnogwch eich tecawê lleol, archebwch fwyd i'ch cartref neu gofynnwch i rywun goginio ar eich cyfer.

·        Peidiwch ag yfed a choginio ar farbiciw - dylai'r cogydd aros  nes ei fod wedi gorffen coginio cyn mwynhau llymaid, peidiwch byth â defnyddio hylifau fflamadwy i gynnau neu adref barbiciw.

·        Gwnewch yn siŵr nad ydy pethau megis fflagiau Cwpan y Byd neu eitemau pwmpiadwy wedi eu gosod yn rhy agos i ffynonellau gwres.  

·        Peidiwch ag yfed a gyrru - cerddwch, cymrwch lifft,  archebwch dacsi neu os ydych yn rhan o grŵp gwnewch yn siŵr bod un ohonoch yn gyfrifol am yrru a bod pawb yn gwneud hynny yn ei dro.

·        Gwnewch yn siŵr bod fflagiau ar gerbydau wedi eu gosod mewn man diogel na fydd yn gwrthdynnu sylw neu'n amharu ar olwg y gyrrwr neu unrhyw yrrwr arall ar y ffordd.

 

Am ragor o gyngor ar ddiogelwch dros yr haf ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk / Eich cadw chi'n ddiogel/ Diogelwch yn yr Haf

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen