Rhagor o streiciau – erfyn ar y cyhoedd i ‘gymryd pwyll arbennig’
Postiwyd
Y mae Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymbil ar y cyhoedd unwaith yn rhagor i'gymryd pwyll arbennig'yn y cartref ac ar y ffordd wedi i Undeb y Brigadau Tân gyhoeddi y bydd diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu'n ddiwydiannol unwaith yn rhagor yr wythnos hon, Ddydd Iau 12fed Mehefin rhwng 9am am 24 awr ac eto'n ddiweddarach yn y mis, Ddydd Sadwrn 21ain Mehefin rhwng 10am-5pm.
Fe bwysleisiodd y Prif Swyddog Tân Simon Smith: "Y tro hwn bydd Undeb y Brigadau Tân yn mynd ar streic am gyfnod o 24 awr am y tro cyntaf a fydd yn cynyddu'r peryglon i'r cyhoedd. Rwyf felly'n efryn arnoch i fod yn hynod wyliadwrus o'ch diogelwch chi eich hun.
"Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad ac am wrando ar ein cyngor yn ystod y streiciau blaenorol, sydd yn amlwg wedi gwneud gwahaniaeth yn y galw am wasanaeth, a hoffwn ofyn i chwi gydweithredu yn yr un modd y tro hwn.
"Mae'r streic gyntaf yn cyd-fynd â dechrau twrnamaint Cwpan y Byd FIFA ac felly fe fydd pobl yn fwy agored i beryglon gan ei bod yn bosib y byddant allan yn cymdeithasu neu'n dathlu gyda theulu a ffrindiau yn y cartref - felly mae'n hynod bwysig i chi gymryd sylw o ddiogelwch tân yn y cartref, yn ogystal â diogelwch ffyrdd.
"Mae'r neges sydd yn erfyn ar i bobl gymryd pwyll arbennig a meddwl yn ofalus am y math o sefyllfaoedd y gallant fod yn eu hwynebu yn neges ddifrifol iawn. Yn anffodus, mae'n bosib na fyddwn yn gallu ymateb i alwadau mor gyflym ag arfer yn ystod y streic - felly atal sydd orau, cadwch y rhagofalon tân canlynol mewn cof er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi a'ch anwyliaid yn ddiogel;
- Gwnewch yn siŵr bod gennych larwm mwg a phrofwch y larwm yn rheolaidd i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio.
- Peidiwch ag yfed a choginio - mae'n gyfuniad peryglus. Os ydych yn llwglyd prynwch tecawê neu gwnewch frechdan. Peidiwch ag estyn eich sosban sglodion na gadael bwyd yn coginio.
- Peidiwch ag yfed a gyrru - cerddwch, gofynnwch am lifft neu ewch mewn tacsi. Ceisiwch osgoi siwrneiau diangen - os byddwch yn ddigon anffodus i ddioddef gwrthdrawiad ffordd mae'n bosib na fyddwn yn eich cyrraedd mor gyflym ag arfer
- Peidiwch â choginio ar y barbiciw ac yfed ar yr un pryd - disgwyliwch hyd nes i chi orffen coginio cyn mwynhau llymaid, a pheidiwch â defnyddio hylifau fflamadwy i gynnau neu adfer barbiciw.
- Diffoddwch unrhyw gyfarpar trydanol nad ydych yn ei ddefnyddio cyn i chi fynd i'r gwely a chaewch bob drws - gwnewch yn siŵr bod gennych gynllun dianc o dân
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn diffodd defnyddiau ysmygu yn iawn a chymrwch bwyll gyda fflamau agored.
- Gall tanau glaswellt ledaenu'n gyflym iawn yn ystod tywydd sych. Maent yn peryglu bywydau ac eiddo felly peidiwch â defnyddio fflamau agored pan fyddwch ar eich hynt a chymrwch bwyll wrth gael gwared ar ddeunyddiau ysmygu.
- Cofiwch bod cynnau tanau bwriadol yn drosedd - os oes gennych wybodaeth am danau bwriadol galwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
- Os bydd tân - ewch allan, arhoswch allan a galwch 999. Peidiwch â chael eich temtio i ddiffodd y tân eich hun
Mae cyngor diogelwch a chyfarwyddyd ar gael i'r cyhoedd a busnesau ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru www.gwastan-gogcymru.org.uk a'n safleoedd rhwydweithio cymdeithasol ar Facebook www.facebook.com/Northwalesfireservice a Twitter @NorthWalesFire (#takeextracare), yn ogystal â'r newyddion lleol.
Y mae disgwyl i nifer uchel o ddiffoddwyr tân y gwasanaeth tân ac achub brotestio drwy fynd ar streic ac felly bydd gostyngiad yn yr adnoddau fydd ar gael i ni. O ganlyniad, ni fydd yn bosib i'r gwasanaeth tân ac achub ddarparu gwasanaeth brys o'r un safon ag arfer - byddwn yn parhau i ymateb i alwadau brys ond byddwn yn rhoi blaenoriaeth i digwyddiadau lle mae bywydau yn y fantol.
Bu i'r Prif Swyddog Tân Simon Smith gysuro'r cyhoedd: "Y mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru drefniadau ar waith i barhau i ddarparu gwasanaeth drwy gydol y streic" ond fe rybuddiodd, " mae'n bosib y bydd y gwasanaeth yn gyfyngedig ar adegau dan yr amgylchiadau".
" Bydd trefniadau parhad busnes y Gwasanaeth yn helpu i adfer y gwasanaethau arferol yn ddiogel a chyflym wedi'r cyfnod o weithredu diwydiannol."
Meddai'r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Tra bod Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gwerthfawrogi ac yn parchu pryderon y staff sydd wedi arwain at eu penderfyniad i brotestio'n gyfreithlon yn y modd hwn, mae gennym ddyletswydd a rhwymedigaeth i wneud yn siŵr na fydd hyn yn effeithio ar y gwasanaeth a ddarperir i'r cyhoedd, cyn belled â bod hynny'n ymarferol bosib. Dyma anghydfod rhwng Undeb y Brigadau Tân (FBU) a'r Llywodraeth yng Nghymru a Lloegr dros y newidiadau arfaethedig i drefniadau pensiwn. Fodd bynnag, prif flaenoriaeth yr Awdurdod yw sicrhau diogelwch y cyhoedd a chysondeb y gwasanaeth cyhoeddus."
Gofynnir i unrhyw un sydd angen ein galw ni yn ystod y streic mewn perthynas â mater nad ydyw'n fater brys i aros hyd nes i'r streic orffen cyn gwneud yr alwad honno.