Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

£8m ar gyfer canolfan newydd yn Wrecsam sy'n darparu gwasanaethau argyfwng

Postiwyd

Heddiw (Dydd Gwener 6 Mehefon), cyhoeddodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd, bod y gwaith o greu Canolfan Adnoddau newydd ar gyfer Gwasanaethau Ambiwlans a Thân yn Wrecsam yn mynd rhagddo yn sgil derbyn hwb ariannol o £8.4 miliwn o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru.

 

Bydd y ganolfan yn darparu cyfleusterau gwell i staff a gwasanaethau gwell i'r cyhoedd yn Wrecsam a'r cyffiniau. Hon fydd y ganolfan gyntaf o'i bath i gael ei hadeiladu i fod yn ganolfan bwrpasol a'i hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru.

 

Bydd y ganolfan yn costio £15 miliwn, a bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth ariannol o £8 miliwn tuag at y prosiect. Bydd y ganolfan newydd yn disodli'r orsaf dân sydd eisoes yn Bradley Road yn Wrecsam, a'r gorsafoedd ambiwlans sydd eisoes yn Chirk ac yn Wrecsam.

 

Mae Cyngor Wrecsam wedi cymeradwyo'r caniatâd cynllunio ar gyfer y ganolfan, a fydd yn cael ei hadeiladu ger Ysbyty Maelor Wrecsam, yn Heol Croesnewydd.

 

Bydd y ganolfan newydd yn cynnwys:

 

  • Swyddfa diogelwch cymunedol leol
  • Gorsaf dân ag wyth cilfan parcio
  • Tŷ hyfforddi a thŵr ymarfer modern, gan gynnwys man hyfforddi i ymarfer ymdrin â gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd
  • Gorsaf ambiwlans, gan gynnwys gweithdy i'r fflyd, swyddfeydd, a man sefydlog ar gyfer staff sy'n ymateb i argyfwng
  • Cyfleusterau i'r staff, gan gynnwys ystafell orffwys, ystafelloedd bwyta, prif swyddfa, cypyrddau clo, ystafelloedd cyfarfod a hyfforddi, a fydd yn cael eu rhannu gan y ddau wasanaeth.

 

Dywedodd yr Athro Drakeford: "Bydd y prosiect hwn yn cynnig y cyfleusterau mwyaf modern sydd ar gael ar gyfer y gwasanaethau tân ac ambiwlans yn yr ardal.  Bydd hynny'n caniatáu iddyn nhw gydweithio'n fwy agos fyth â'i gilydd, gan sicrhau gwasanaethau mwy effeithlon ac effeithiol.

 

"Yn fwyaf penodol, bydd yn caniatáu iddyn nhw weithio mewn ffordd fwy cyd-drefnus wrth ymateb i ddigwyddiadau a gwella amseroedd ymateb i argyfyngau."

 

Dywedodd Elwyn Price-Morris, Prif Weithredwr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: "Rydyn ni wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru wedi gweld potensial y prosiect hwn ac wedi cymeradwyo ein hachos busnes llawn.


"Bydd y datblygiad hwn yn darparu gwasanaethau modern, gwell ac o'r radd flaenaf. Bydd hefyd yn sicrhau'r defnydd gorau o'r adnoddau ar gyfer y ddau sefydliad.

 

"Bydd cynorthwywyr penodedig ar gyfer y fflyd yn gwella safonau glendid y cerbydau ac yn lleihau'r perygl o groes-heintio, gan roi cyfle i'r clinigwyr dreulio mwy o amser wyneb yn wyneb â'r cleifion er mwyn cynnig gofal gwell yn yr ardal.

 

"Yn ogystal â hyn, wrth gwrs, mae'n fantais ychwanegol y byddwn ni'n cael ein lleoli yn yr un man â'n cydweithwyr yn y gwasanaethau argyfwng, gan fod perthynas weithio agos gyda ni'n barod, ac rydyn ni'n aml yn mynd i ddigwyddiadau gyda'n gilydd.

 

"Mae llawer o waith caled a gwaith paratoi wedi'i wneud ar y prosiect hwn gan y bartneriaeth, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weld y gwaith adeiladu'n dechrau."

 

Dywedodd y Prif Swyddog Tân, Simon Smith bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru'n cydnabod manteision gallu cydweithio yn y modd hwn.

 

"Penderfynon ni ymuno â'r bartneriaeth hon oherwydd dyhead i greu cyfleuster ar y cyd y gallwn ni fod yn falch ohono, yn yr un modd ag y mae cydweithio â Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer y Ganolfan Gyfathrebiadau ar y Cyd wedi cynnig dull arloesol o gydweithio â'r gwasanaethau argyfwng sy'n rhoi Gogledd Cymru ar flaen y gad o ran gweithrediadau 999.

 

"Rwy'n hynod o falch ein bod ni bellach mewn sefyllfa i fwrw ymlaen â'r fenter hon, gan ei bod yn cynnig y cyfle gorau posibl i ddarparu cyfleusterau gwell i'n staff, a gwasanaeth gwell i'r cyhoedd yn yr ardal. "

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen