Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Trigolion y Blaenau yn elwa o ymweliadau ar y cyd

Postiwyd

Unwaith eto y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a
Heddlu Gogledd Cymru wedi cydweithio i gynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref ac ymweliadau sicrwydd, yn cynnwys cyngor ar atal troseddu a diogelu'r cartref, i bobl yn ardal Blaenau Ffestiniog.

Mae John Paul Williams, Ymarferwr Cefnogi Diogelwch yn y Cartref gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac Emma Jones, Swyddog
Cymorth Cymunedol ardal Blaenau Ffestiniog gyda Heddlu Gogledd Cymru, wedi cwblhau ymweliadau ar y cyd yn ardaloedd Blaenau Ffestiniog a Thanygrisiau.

Meddai John Paul Williams o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:  "Rydym wedi bod yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref i drigolion ar draws y Gogledd ers rhai blynyddoedd, ac y mae miloedd o bobl wedi cymryd mantais o'r gwasanaeth am ddim i'w cadw mor ddiogel â phosib rhag tân yn y cartref.   Yn ogystal â gosod larymau mwg am ddim, bydd aelod o'r Gwasanaeth yn eich helpu i lunio cynllun dianc, trafod pwysigrwydd arferion gyda'r nos a rhannu cynghorion ar ddiogelwch tân yn y cartref.

"Drwy weithio gyda Emma yn yr ardal leol, daeth i'r amlwg bod y rhai a oedd yn gofyn am archwiliad, yn enwedig pobl hŷn a oedd yn byw ar eu pen eu hunain, hefyd yn dymuno cael gwybodaeth ychwanegol a sicrwydd gan ein
partneriaid, Heddlu Gogledd Cymru.

"Cawsom adborth calonogol iawn gan y cyhoedd yn dilyn yr
ymweliadau ar y cyd ac rydym yn edrych ymlaen at drefnu rhagor o ymweliadau
tebyg yn y dyfodol."

Fe ychwanegodd Emma Jones, Swyddog Cymorth Cymunedol
Heddlu Gogledd Cymru: "Nod yr ymweliadau ar y cyd yw gwneud i drigolion lleol
deimlo'n fwy diogel yn eu cartrefi.  Yn dilyn archwiliad diogelwch tân yn y cartref, bydd Swyddog Cymorth Cymunedol yn cynnal ymweliad sicrwydd gyda chyfle i drigolion drefnu cymhorthfa yn y cartref fel y gallant ofyn cwestiynau na fyddant yn debygol o'u gofyn i swyddogion ar y stryd.  Nod yr ymweliadau yw cynnig
sicrwydd i drigolion ac ateb eu cwestiynau.

"Mae'n braf gwneud cysylltiadau lleol yn y modd hwn ac
rydym yn falch ein bod yn cydweithio i amddiffyn y gymuned."

Os ydych chi'n byw yn ardal Blaenau Ffestiniog a bod gennych ddiddordeb mewn ymweliad ar y cyd, neu gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref ar eich cyfer chi, perthynas, ffrind neu gymydog, galwch ein rhif rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk, ewch i'n gwefan www.gwastan-gpgcymru.org.uk, neu anfonwch neges destun i 88365, gan roi HFSC ar ddechrau'r neges.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen