Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru’n cyfranogi yn Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd y DU

Postiwyd

Yn ystod yr ail wythnos ym mis Mehefin, mae'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru'n uno gyda Gwasanaethau Tân ac Achub eraill ledled y DU ar gyfer wythnos genedlaethol o weithgarwch, i hybu diogelwch ar y ffyrdd ymhlith cymunedau lleol.

Neges drosfwaol Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd y DU eleni yw: 'Byddwch yn Ddiogel Allan Yna' ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cefnogi'r wythnos trwy dargedu pedwar grwp yn arbennig:

  • Beicwyr
  • Beicwyr Modur
  • Cerddwyr
  • Gyrwyr Ifanc.

Yn ystod yr wythnos, bydd Gwasanaethau Tân ac Achub ledled y DU yn gweithio i gyfleu negeseuon diogelwch ar y ffyrdd i holl ddefnyddwyr y ffyrdd, yn enwedig cerddwyr, gyrwyr ifanc, beicwyr a beicwyr modur.  Nid unigolion yn unig sy'n cael eu heffeithio gan ddamweiniau ar y ffyrdd - mae bywydau teuluoedd yn medru cael eu dinistrio wrth golli rhywun sy'n annwyl, neu mae eu bywydau'n medru newid am byth trwy orfod gofalu am aelod o'r teulu sydd wedi dioddef anafiadau sy'n newid bywyd.

  • Bydd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru yn cynnal y digwyddiadau canlynol:
  • Dydd Mercher yr 11eg o Fehefin 2014 - Coleg Powys, Y Drenewydd. SY16 4HU - 10yb - 2yh
  • Dydd Mercher yr 11eg o Fehefin 2014 - Ysgol Gynradd Penygloddfa, Y Drenewydd. SY16 2DF - 2:30yh - 4:30yh
  • Dydd Gwener y 13eg o Fehefin 2014 - Stryd y Frenhines, Caerdydd. CF10 2HQ - 9yb - 1yh
  • Dydd Gwener y 13eg o Fehefin 2014 - Coleg Cambria, Ffordd Parc y Gelli, Wrecsam. LL12 7AB -  11yb - 3yh

Dydd Gwener, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn lansio cwrs deuddydd newydd, sef 'Chwyldro', sy'n anelu at addysgu gyrwyr ifanc rhwng 16 - 25 oed sydd wedi cyflawni, neu sy'n ddarostyngedig i droseddau gyrru yn eu hardal.  Bydd y cyrsiau rhyngweithiol yn cynnwys amrywiol agweddau, megis canlyniadau gwrthdrawiadau ar y ffordd marwol, neu sy'n achosi anafiadau difrifol, i'r gyrwyr, eu teithwyr, eu teuluoedd a'u ffrindiau, yn ogystal â'r mathau o effeithiau seicolegol, cosbol ac ariannol a ddaw o fod yn gysylltiedig â gwrthdrawiad ar y ffordd.

Yn ystod yr wythnos hefyd, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnal Digwyddiadau Diogelwch ar y Ffyrdd, i dynnu sylw at beryglon teithio ar ffyrdd yng Nghymru wledig.  Byddwn yn cynnal sgyrsiau Diogelwch yn y Gymuned gyda Chlybiau Ffermwyr Ifanc a Grwpiau Ieuenctid lleol trwy gydol yr wythnos.

  • Diogelwch ar y Ffyrdd, Addysg Phoenix - 9fed-13eg o Fehefin

Dywedodd Paul Fuller, Llywydd Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân: "Gwyddwn fod y Gwasanaeth Tân ac Achub eisoes wedi helpu i wella diogelwch ar y ffyrdd, trwy raglenni addysgol lleol targedig, a bod y GTA yn arweinwyr byd mewn trin anafusion a thechnegau rhyddhau yn dilyn Gwrthdrawiadau ar y Ffordd.  Bydd yr wythnos hon o ddigwyddiadau a gweithgareddau'n ein galluogi ni i ymgysylltu â phartneriaid a'n cymunedau lleol, er mwyn gweithio tuag at ein nod eithaf o ddim marwolaethau a llai o anafiadau ar Ffyrdd y DU."

Dywedodd Alison Kibblewhite, Pennaeth Lleihau Risg, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: "Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda Gwasanaethau Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru, i addysgu a chreu ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd ymhlith pobl, byddent ar gerdded, ar feiciau, ar feiciau modur neu mewn ceir.  Mae damweiniau ffordd yn un o achosion pennaf marwolaethau ac anafiadau sy'n newid bywyd ymhlith pobl ifanc.  Mae traffig yn achosi perygl hefyd i'r rhai hynny sy'n hoff o gerdded neu feicio."  

Dywedodd Neil Evans, Rheolwr Diogelwch yn y Gymuned Powys: "Bydd addysgu gyrwyr heddiw'n dylanwadu ac yn lleihau gobeithio ar nifer y marwolaethau a'r anafiadau yn y dyfodol."

Dywedodd Huw Jakeway, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: "Rydym yn gweithio'n agos gyda'n cymunedau trwy gydol y flwyddyn i'w cynghori ar nifer o faterion diogelwch sy'n effeithio arnynt.  Mae diogelwch ar y ffyrdd yn rhan allweddol o'n sgyrsiau bob amser, yn enwedig i bobl ifanc sydd mewn perygl yn uwch yn ôl yr ystadegau.  Mae'n gwneud synnwyr i gefnogi Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd, sy'n tynnu sylw at y peryglon i yrwyr ifanc, beicwyr modur, beicwyr a cherddwyr.  Gobeithio bydd y negeseuon a gyflwynir gennym yn cael eu hategu gan gyhoeddusrwydd cenedlaethol yn ystod yr wythnos, a fydd yn helpu pobl i gofio'r negeseuon.

Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, Lesley Griffiths AC:
 "Rydym yn ymrwymedig i wella diogelwch ar y ffyrdd ac i leihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd Cymru, ac rwy'n hynod falch fod y tri Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru wedi trefnu digwyddiadau i nodi Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd, rhwng y 10fed a'r 13eg o Fehefin.

"Addysg a gweithgareddau atal yw'r ffordd ymlaen, er mwyn atal anafiadau a marwolaethau ar ein ffyrdd, ac mae'n dda gweld bod yr Awdurdodau Tân ac Achub yn chwarae eu rhan i gyflawni hyn.  Mae'n bwysig ein bod yn addysgu holl ddefnyddwyr ein ffyrdd, yn cynnwys pobl ifanc, am ddiogelwch ar y ffyrdd a sut i gadw'n ddiogel ar ein ffyrdd."

Dywedodd Simon Smith, Prif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yn mynychu nifer fawr o wrthdrawiadau ar y ffordd - ac rydym yn gwneud popeth fedrwn ni i addysgu ein gyrwyr ifanc, cerddwyr, beicwyr a beicwyr modur ac i leihau nifer y trasiedïau ar ein ffyrdd.

"Mae digwyddiadau diogelwch ar y ffyrdd Cymru gyfan wedi profi eu bod yn ffordd ardderchog o gael pobl i feddwl am ganlyniadau eu gyrru nhw a, thrwy weithio mewn partneriaeth, rydym ni eisiau cyfleu negeseuon hanfodol a allai achub bywydau i'r grwpiau targed allweddol yma."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen