Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cyngor Wrecsam yn cefnogi’r cynlluniau ar gyfer Canolfan Gwasanaethau Ambiwlans a Thân ar y cyd

Postiwyd

     

 

Mae'r cynlluniau ar gyfer Canolfan Gwasanaethau Ambiwlans a Thân wedi derbyn cefnogaeth gan Gyngor Wrecsam.

 

Rhoddwyd caniatâd i ddechrau adeiladu'r ganolfan ar y cyd ar dir i'r de o Ysbyty Maelor ar Ffordd Croesnewydd gan bwyllgor cynllunio'r cyngor neithiwr (Nos Fawrth 6 Mai, 2014).

 

Cafodd yr achos busnes llawn, sydd yn amlinellu manylion y datblygiad, ei gymeradwyo gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru a Bwrdd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ym mis Mawrth, ac y mae'n cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

 

Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gymeradwyo'r nawdd ar gyfer yr achos busnes cyn y gallwn ddechrau adeiladu'r cyfleuster.

 

Bydd y datblygiad newydd, os caiff ei gymeradwyo, yn darparu cyfleusterau gwell i staff, yn ogystal â gwasanaeth gwell i'r cyhoedd a chleifion yn ardal Wrecsam a'r cyffiniau.

 

Meddai Elwyn Price-Morris, Prif Weithredwr Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: "Rydym yn falch iawn bod Cyngor Wrecsam wedi cefnogi'r prosiect hwn, ond dim ond y cam cyntaf mewn proses hirfaith yw hwn.

 

"Credwn y bydd y ganolfan adnoddau yn cynyddu'r amser y bydd clinigwyr yn ei dreulio wyneb yn wybed gyda chleifion yn darparu gofal, gwella glendid yn y cerbydau a lleihau'r perygl o draws-heintio.

 

"Ac, wrth gwrs, mantais arall yw y byddwn wedi ein lleoli gyda'n cydweithwyr o'r gwasanaeth brys yr ydym eisoes wedi sefydlu perthynas waith agos gyda hwy wrth ymateb i ddigwyddiadau ar y cyd."

 

Dywedodd y Prif Swyddog Tân  Simon Smithbod Gwasanaeth Tân ac Achub yn cydnabod manteisio cydweithio ar strategaeth ystadau hirdymor fel hyn.

 

Meddai: "Rydym wedi ymuno mewn partneriaeth gyda'r nod o greu cyfleuster ar y cyd y gallwn ymfalchïo ynddo, yn yr un modd ac y mae'r Ganolfan Gyfathrebiadau ar y Cyd gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi sicrhau dull arloesol tuag at wasanaeth brys cyfunol sydd wedi rhoi Gogledd Cymru ar y blaen o safbwynt gweithrediadau 999.  

 

"Y mae wedi cymryd peth amser i ni ddod o hyd i safle addas, penderfynu ar gostau a symud ymlaen gyda'r prosiect ond rydw i'n falch ein bod nawr yn y fath sefyllfa lle gallwn symud ymlaen gyda'r fenter er mwyn darparu cyfleusterau gwell i'n staff a gwasanaeth gwell i'r cyhoedd yn yr ardal."  

 

 

Os caiff ei gymeradwyo, bydd y Ganolfan Adnoddau Ambiwlans a Thân newydd yn cymryd lle'r orsaf bresennol ar Ffordd Bradley yn Wrecsam, a'r gorsafoedd ambiwlans yn y Waun a Wrecsam.

 

Ni fydd hyn yn effeithio ar y ddarpariaeth ambiwlans a byddwn yn cynnal y ddarpariaeth drwy anfon adnoddau o orsafoedd sydd wedi eu lleoli'n strategol.

 

Unwaith y bydd criwiau ambiwlans ar ddyletswydd yn y cyfleuster newydd, byddant yn symud i'r ardaloedd hynny lle mae'r dystiolaeth yn awgrymu y daw'r alwad 999 nesaf fel eu bod yn y lleoliad gorau posib i ymateb i alwadau yn y cymunedau hyn a thu hwnt.

 

Bydd y cyfleuster tân yn cynnwys swyddfa diogelwch cymunedol a gorsaf dân wyth bae.  Bydd yno hefyd dŷ hyfforddi o'r radd flaenaf a thŵr ymarfer gydag ardal i ddarparu hyfforddiant gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd.

 

Bydd y cyfleuster ambiwlans yn cynnwys gweithdy ar gyfer y fflyd, swyddfeydd, a safle ymbaratoi ac ymateb i staff ymateb.

 

Bydd adnoddau megis ystafelloedd gorffwys, ystafelloedd bwyta, y brif swyddfa, loceri, ystafelloedd hyfforddiant a chyfarfod yn cael eu rhannu gan y ddau wasanaeth.

 

Bydd yna gyfle hefyd i'r cyhoedd logi'r ystafell gyfarfod ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus.

 

Bydd  Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn buddsoddi dros £15 miliwn yn y cyfleuster ar y cyd a fydd wedi ei gwblhau erbyn diwedd 2015, cyn belled bod Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo'r Achos Busnes Terfynol.


Bydd y datblygiad yn darparu gwasanaethau modern, gwell ac wedi eu huwchraddio, gan wneud yn gorau o adnoddau'r naill sefydliad.  

 

Mae'r naill sefydliad wedi cydweithio i gynhyrchu Polisi Gweithredol ar y cyd  a fydd yn parhau i gael ei ddatblygu wrth i'r prosiect gyrraedd y cyfnodau adeiladu a gweithredol.

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen