Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân yn Ystad Ddiwydiannol River Lane, Saltney

Postiwyd

 

Cafodd criwiau eu galw i dân mewn adeilad ar Ystad Ddiwydiannol River Lane, Saltney am 08.08 o'r gloch ddydd Mawrth 20fed Mai.

 

Roedd dau beiriant o Lannau Dyfrdwy, dau o Swydd Gaer ac un o Fflint ynghyd â'r Peiriant Cyrraedd yn Uchel o Wrecsam, y Pwmp Cyfaint Uchel o Landudno a'r Uned Meistroli Digwyddiadau o'r Rhyl yn bresennol pan oedd y tân ar ei anterth.

 

Mae rhai o griwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dal i fod yn bresennol ar y safle.  Roedd y tân yn cynnwys tunelli o wastraff i'w ailgylchu ac o'r herwydd roedd mwg du yn weladwy yn yr ardal.

 

Meddai Dave Powell o Gyfoeth Naturiol Cymru: "Mae ein swyddogion yn dal i fod ar y safle er mwyn cynorthwyo Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymri i asesu'r effaith posib ar yr amgylchedd.

 

"Ein prif bryder yn ystod y math yma o ddigwyddiadau yw delio gyda'r dŵr sydd yn cael ei ddefnyddio i ddiffodd y tân.  Mae'r dŵr yn dod i gysylltiad gyda llawer o lygryddion wrth ddiffodd y tân a all lygru afonydd a nentydd o ganlyniad.

 

"Ar y funud mae modd rheoli'r llygryddion ac nid yw wedi effeithio llawer ar yr Afon Dyfrdwy a'r cyffiniau."

 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi nad yw'n disgwyl i'r bobl hynny sydd yn byw'n agos at safle'r tân ddod i gysylltiad gyda lefelau mwg a all fod yn niweidiol i'w iechyd.  Mae'r mwg i'w weld ar y llawr gwaelod. Cynghorir pobl i aros y tu mewn a chadw eu ffenestri a'u drysau ynghau a gwrando am ddiweddariadau pellach yn y cyfryngau.  

 

Mae'r mwg yn cynnwys sylweddau a all effeithio ar bibellau gwynt a'r croen. Gall symptomau gynnwys tagu a gwichian a diffyg anadl.  Gall y mwg achosi perygl i bobl sydd yn dioddef o'r fogfa neu gyflyrau resbiradol eraill a dylai pobl sydd dioddef o'r fath gyflyrau  gario a defnyddio eu meddyginiaeth arferol (megis pympiau asthma).  

 

Nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi derbyn gwybodaeth bod unrhyw un wedi cael ei effeithio gan y tân. Os ydych chi'n dioddef o ddiffyg anadl a'ch bod yn poeni cysylltwch gyda Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu'ch Meddyg Teulu.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen