Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Wythnos Ymwybyddiaeth Celcio

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Celcio'r wythnos hon.  Dyma yw'r wythnos genedlaethol gyntaf o'i math i gael ei chynnal yn y DU.

Cynhelir yr ymgyrch gan Gymdeithas y Prif Swyddogion Tân yr wythnos hon (Mai 19 - 25) ac y mae'n canolbwyntio ar y risgiau y mae celcwyr yn eu hwynebu.

Meddai Gary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Mae pop un ohonom yn tueddu i gadw pethau nad ydym ni eu hangen.  Mae gan rai ohonom lawer o bethau a dim digon o le i'w cadw.  Ond mae celcio yn fater cymhleth sydd yn mynd y tu hwnt i annibendod neu betruster.

"Gall celcwyr lenwi ystafelloedd cyfan o'r llawr i'r nenfwd, gan adael dim ond ychydig iawn o le iddynt fyw ynddo.  Y mae cadw cymaint o eiddo â hyn yn y cartref yn achosi peryglon tân, ac y mae'n ei gwneud hi'n anodd iawn i ddiffoddwyr tân fynd i mewn i'r cartref i daclo'r tân.

"Mae defnyddiau sydd wedi cael eu celcio yn achosi perygl i ddiffoddwyr tân sydd angen mynd i mewn i eiddo i chwilio am bobl sydd ar goll,  gall yr eitemau sydd wedi cael eu storio syrthio a rhwystro'r llwybr i mewn ac allan o'r eiddo ac, wrth gwrs, gall gynyddu maint y tân yn sylweddol."

"Rydym felly'n annog unrhyw un sydd yn adnabod celciwr i weithio gyda ni i  ddod o hyd i ffyrdd o leihau'r peryglon.

"Mae celcwyr fel arfer yn casglu eitemau megis papurau newydd, cylchgronau, llyfrau a dodrefn meddal - eitemau hylgsog iawn.

"Drwy gynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref, a gosod larymau mwg gallwn weithio gyda chelcwyr i wneud eu cartrefi'n fwy diogel rhag tân.

"Os oes angen cymorth pellach arnynt i leihau'r peryglon a'r effaith y mae celcio yn ei gael ar eu bywydau, gallwn eu hatgyfeirio at un o'n hasiantaethau partner.  Rydym ni am sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl rhag tân , beth bynnag fo'r amgylchiadau yn eu cartref."

Os hoffech gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref, ewch i www.larwmmwgamddim.co.uk neu galwch 0800 1691234.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen