Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Erfyn ar i gymunedau"gymryd pwyll arbennig"pan fydd diffoddwyr tân ar streic dros gyfnod gŵyl y banc

Postiwyd

Y mae Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar i'r cyhoedd'gymryd pwyll arbennig'yn y cartref ac ar y ffordd wedi i Undeb y Brigadau Tân gyhoeddi y bydd diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu'n ddiwydiannol cyn ac yn ystod penwythnos gŵyl y banc ym mis Mai;

 

  • Dydd Gwener 2il Mairhwng hanner dydd a 5pm
  • Dydd Sadwrn  3ydd Mairhwng  2pm a 2am y bore canlynol
  • Dydd Sul 4ydd Mairhwng 10am a 3pm

 

Fe bwysleisiodd y Prif Swyddog Tân Simon Smith: " Ar yr achlysur hwn mae Undeb y Brigadau Tân wedi dewis mynd ar streic ar adeg pan y bydd pobl yn fwy agored i beryglon -bydd nifer o bobl allan yn mwynhau'r penwythnos hir, unai'n teithio ar y ffyrdd i fwynhau gwyliau byr, allan yn cymdeithasu  neu'n coginio ar gyfer ffrindiau a theulu yn y cartref.

 

"Yn ystod gwyliau banc mae'r gwasanaeth tân ac achub yn gweld cynnydd yn nifer y galwadau  y mae'n ei dderbyn ac felly mae'n bwysig iawn bod pobl yn cymryd sylw o ddiogelwch yn y cartref ac ar y ffordd.

 

"Mae'r neges sydd yn erfyn ar i bobl gymryd pwyll arbennig a meddwl yn ofalus am y math o sefyllfaoedd y gallant fod yn eu hwynebu yn neges ddifrifol iawn. Yn anffodus, mae'n bosib na fyddwn yn gallu ymateb i alwadau mor gyflym ag arfer yn ystod y streic - felly atal sydd orau, cadwch y rhagofalon tân canlynol mewn cof er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi a'ch anwyliaid yn ddiogel;

 

  • Gwnewch yn siŵr bod gennych larwm mwg a phrofwch y larwm yn rheolaidd i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio - gosodwch larwm yn eich carafán cyn mynd i garafanio.
  • Peidiwch ag yfed a choginio - rydym yn gwybod o brofiad ei fod yn gyfuniad peryglus. Mae pawb yn mwynhau gwydraid neu ddau dros ŵyl y banc ond byddwch yn gymedrol a pheidiwch â gadael bwyd yn coginio. Os ydych yn llwglyd prynwch tecawê neu gwnewch frechdan - peidiwch ag estyn eich sosban sglodion na gadael bwyd yn coginio.
  • Ceisiwch osgoi siwrneiau diangen - os byddwch yn ddigon anffodus i ddioddef gwrthdrawiad ffordd mae'n bosib na fyddwn yn eich cyrraedd mor gyflym ag arfer
  • Diffoddwch  unrhyw gyfarpar trydanol nad ydych yn ei ddefnyddio cyn i chi fynd i'r gwely a chaewch bob drws - gwnewch yn siŵr bod gennych gynllun dianc o dân
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn diffodd defnyddiau ysmygu yn iawn a chymrwch bwyll gyda fflamau agored.  Cymrwch bwyll gyda barbiciws - gwnewch yn siŵr bod rhywun yno i oruchwylio'r barbiciw ar ôl ei gynnau a gadewch i'r colsion oeri cyn cael gwared â hwy.
  • Cymrwch bwyll arbennig os ydych yn mynd i wersylla neu garafanio - byddwch yn gyfrifol gyda silindrau nwy ac wrth ddefnyddio hylifau fflamadwy.  Peidiwch byth â gadael fflamau agored heb neb i gadw llygaid arnynt.
  • Gall tanau glaswellt ledaenu'n gyflym iawn yn ystod tywydd sych.  Maent yn peryglu bywydau ac eiddo felly peidiwch â defnyddio fflamau agored pan fyddwch ar eich hynt a chymrwch bwyll wrth gael gwared ar ddeunyddiau ysmygu.
  • Cofiwch bod cynnau tanau bwriadol yn drosedd - os oes gennych wybodaeth am danau bwriadol galwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
  • Os bydd tân - ewch allan, arhoswch allan a galwch 999.  Peidiwch â chael eich temtio  i ddiffodd y tân eich hun."

 

Mae cyngor diogelwch a chyfarwyddyd ar gael i'r cyhoedd a busnesau ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru www.gwastan-gogcymru.org.uk a'n safleoedd rhwydweithio cymdeithasol ar Facebook www.facebook.com/Northwalesfireservice a Twitter @NorthWalesFire (#takeextracare), yn ogystal â'r newyddion lleol.

 

Y mae pawb yn hoffi mwynhau eu hunain  ar benwythnos gŵyl y banc ond cynghorir y cyhoedd i gadw diogelwch mewn cof wrth ddilyn ein cynghorion syml.

 

Y mae  disgwyl i nifer uchel o ddiffoddwyr tân y gwasanaeth tân ac achub brotestio drwy fynd ar streic ac felly bydd gostyngiad yn yr adnoddau fydd ar gael i ni.  O ganlyniad, ni fydd yn bosib i'r gwasanaeth tân ac achub ddarparu gwasanaeth brys o'r un safon ag arfer - byddwn yn parhau i ymateb i alwadau brys ond byddwn yn rhoi blaenoriaeth i digwyddiadau lle mae bywydau yn y fantol.  

 

Bu i'r Prif Swyddog Tân Simon Smith gysuro'r cyhoedd: "Y mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru drefniadau ar waith i barhau i ddarparu gwasanaeth  drwy gydol y streic" ond fe rybuddiodd,  " mae'n bosib y bydd y gwasanaeth yn gyfyngedig ar adegau dan yr amgylchiadau".  

 

" Bydd trefniadau parhad busnes y Gwasanaeth yn helpu i adfer y gwasanaethau arferol yn ddiogel a chyflym wedi'r cyfnod o weithredu diwydiannol."

 

Meddai'r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Tra bod Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gwerthfawrogi ac yn parchu pryderon y staff sydd wedi arwain at eu penderfyniad i brotestio'n gyfreithlon yn y modd hwn, mae gennym ddyletswydd a rhwymedigaeth i wneud yn siŵr na fydd hyn yn effeithio ar y gwasanaeth a ddarperir i'r cyhoedd, cyn belled â bod hynny'n ymarferol bosib.  Dyma anghydfod rhwng Undeb y Brigadau Tân (FBU) a'r Llywodraeth yng Nghymru a Lloegr dros y newidiadau arfaethedig i drefniadau pensiwn.  Fodd bynnag,  prif flaenoriaeth yr Awdurdod yw sicrhau diogelwch y cyhoedd a chysondeb y gwasanaeth cyhoeddus."

 

Gofynnir i unrhyw un sydd angen ein galw ni yn ystod y streic  mewn perthynas â mater nad ydyw'n fater brys i aros hyd nes i'r streic orffen cyn gwneud yr alwad honno.

 

 

Cliciwch yma i weld taflen ar ddiogelwch tân yn y cartref

Cliciwch yma os ydych chi'n rhedeg busnes ac eisiau cyngor ar sut i gadw'ch safle yn ddiogel rhag tân.

Cliciwch yma am gyngor cyffredinol ar ddiogelwch dros yr haf.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen