Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhoi sgiliau achub bywyd ar brawf yn ystod ‘damwain’ ffordd tri cherbyd

Postiwyd

Fe roddodd y gwasanaeth brys ei sgiliau achub bywyd ar brawf yn ystod ymarferiad a oedd yn cynnwys gwrthdrawiad ffordd tri cherbyd yn y Rhyl.

Fe ymunodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a doctoriaid BASICS lleol i ail-greu damwain ffordd tri cherbyd, lle bu'n rhaid i griwiau feddwl yn gyflym i achub dros 20 o 'anafusion'.

Myfyrwyr o Goleg Llandrillo oedd mwyafrif yr 'anafusion', a oedd yn cymryd arnynt eu bod yn dioddef o sioc ar ôl i'w bws mini wrthdaro gyda  Peugeot 206 ac Austin Maestro.

Roedd yr actorion eraill yn wirfoddolwyr o Undeb yr Anafusion, a ddarparodd golur realistig ac effeithiau arbennig ar y diwrnod.

Roedd dymis realistig hefyd yn rhan o'r ymarfer ac roedd y rhain yn gallu ymateb i olau drwy amrantu, ynghyd â system adnabod cyffuriau sydd yn adnabod unrhyw gyffur sydd wedi ei chwistrellu i wythiennau'r fraich dde.  

Roedd y dymis yn cael eu rheoli gan ddarpar ddoctoriaid drwy ddefnyddio tabledi gyda sgrin gyffwrdd, ac roedd modd iddynt addasu curiad calon y dymis a gwneud iddynt siarad.  

Roedd yr ymarfer yng Ngorsaf Dân y Rhyl wedi ei arwain gan Dermot O'Leary, Arweinydd Tîm Clinigol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, a Suman Mitra, Anesthetydd Clinigol o Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Meddai Dermot:"Er bod yr ymarfer yn edrych yn hynod ddramatig, y gwir amdani yw y gall ein criwiau ddod wyneb yn wyneb â gwrthdrawiad fel hyn ar unrhyw adeg.  Drwy ail-greu anafiadau a sefyllfaoedd trawmatig gallwn ddarparu cwrs hyfforddi llawer mwy dwys i'n criwiau.

"Drwy gyfuno gwybodaeth a sgiliau y timau BASICS a'r gwasanaeth tân ac achub gallwn brofi gallu ein criwiau i'r eithaf fel eu bod yn barod i ymateb i'r math yma o ddigwyddiad pan fydd angen."

Fe ychwanegodd Dr Mitra: "Ar ddyrnodiau fel hyn rydym ni fel gwasanaethau brys yn cael cyfle i ddod at ein gilydd i drafod, dysgu a chydweithio er mwyn helpu cleifion yn ystod sefyllfaoedd sy'n bygwth bywydau.  Rydym yn sôn am y gwahaniaethau a'r tebygolrwydd o ran offer, gweithdrefnau a hyfforddiant ac yn cyfuno'r cwbl i efelychu un senario.

"Rydw i bob amser yn edrych ymlaen at y diwrnodau hyfforddi hyn oherwydd eu bod yn fy helpu i a'm cydweithwyr i weithio fel tîm pan fydd y math yma o sefyllfaoedd yn codi yn y byd go iawn."


Fe  helpodd Ken Monks, Rheolwr Gwylfa yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, i oruchwylio pethau ar y diwrnod.

Meddai: "Mae'r gwrthdrawiadau traffig ffug yma wedi eu dylunio i wella cydweithio rhwng y gwasanaethau brys ac y maent yn rhoi cyfle i griwiau weithio gyda'i gilydd mewn senario hyfforddi realistig.

"Rydym ni fel gwasanaeth tân ac achub yn cael ein galw i nifer uchel o wrthdrawiadau ffordd, felly mae'n hynod fuddiol i ni ymarfer gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill yn y modd hwn er mwyn ein galluogi i ddarparu'r gofal gorau posib yn ystod ac wedi digwyddiadau i'r rhai hynny sydd yn ddigon anffodus i fod mewn damwain ar y ffordd."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen