Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Elusennau lleol yn elwa wedi arddangosfa dân gwyllt y Rhyl

Postiwyd

 

Mae elusennau lleol wedi derbyn cyfanswm o £4500, sef y swm a godwyd yn ystod yr arddangosfa dân gwyllt flynyddol a gynhaliwyd yn y Rhyl ar y 5ed o Dachwedd, 2013.

 

Fe aeth staff o Orsaf Dân Gymunedol y Rhyl draw i Ysbyty Glan Clwyd yn ddiweddar i gyflwyno  dwy set deledu plasma newydd i uned Cuddles, sef yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod.  Roedd y setiau deledu wedi cael eu prynu gyda chyfran o'r arian a godwyd.

 

Meddai Rheolwr yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod, Mandy Cooke: "Rydym yn ddiolchgar iawn i drefnwyr yr arddangosfa dân gwyllt ac i'r rhai a gefnogodd y noson ac a roddodd yn hael i'r achos."

 

Roedd yr elusennau eraill a dderbyniodd rodd yn cynnwys Hosbis St Kentigern, Y Gymdeithas Tân Ac Achub Rhyngwladol, Tŷ Gobaith, Belief, Rhyl Gateway Club, NSPCC y Rhyl, Clwb Dawnsio Sequence Y Rhyl, Clwb Dawns Bae Cinmel, Brownis 1af Alltmelyd,  Cylch Meithrin Rhuddlan, Cylch Meithrin Tremeirchion, Clwb Gymnasteg y Rhyl a Phrestatyn, Cyfeillion Gofal Arennol Glan Clwyd, SPAN (Sir Ddinbych), Elusen y Diffoddwyr Tân, Ambiwlans Sant Ioan a Chymdeithas Diffoddwyr Tân Ifanc Prestatyn.

 

Medai Kev Warner, Rheolwr Gwylfa yng Ngorsaf Dân Gymunedol y Rhyl:

 

"Daeth nifer o bobl i gefnogi'r arddangosfa eleni a hoffwn ddiolch i bawb am ei gwneud hi'n bosib i ni gyflwyno rhodd i'r elusennau hyn.

 

"Rydym yn falch ein bod yn cael cyfle i weithio gyda thrigolion y Gogledd i'w cadw mor ddiogel â phosib.  Mae gweld yr arian yn cael ei ail-fuddsoddi yn y gymuned yn gwneud yr holl waith trefnu yn werth chweil.

 

"Ein blaenoriaeth yw cadw trigolion yn ddiogel - mynychu noson gymunedol yw'r unig ffordd i gadw'n ddiogel yn ystod y tymor tân gwyllt. Yr adeg yma o'r flwyddyn mae'n bwysig ein bod yn cadw diogelwch tân yn y cartref mewn cof.

 

"Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn rhad ac am ddim i bawb  sydd yn byw yn y Gogledd lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref i rannu cynghorion diogelwch tân a gosod larymau mwg newydd os oes angen. I gofrestru ffoniwch 0800 169 1234, anfonwch neges e-bost i  dtc@gwastan-gogcymru.org.uk  neu ewch i www.gwawstan-gogcymru.org.uk."

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen