Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mewn tŷ tafarn ym Mangor

Postiwyd

Anfonwyd peiriannau tân o Fangor, Llanfairfechan a Biwmares a'r peiriant cyrraedd yn uchel i ddigwyddiad mewn tŷ tafarn yn Stryd y Ffynnon, Bangor am  3.31 o'r gloch y bore yma (Dydd Sul 30ain Mawrth).

Cafodd chwech o bobl eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlans.  Fe ddioddefodd un dyn losgiadau ac anafiadau mewnol ar ôl neidio o'r ail lawr.  Roedd hefyd yn dioddef o effeithiau anadlu mwg.  Y mae bellach wedi ei gludo i ysbyty ym Mirmingham.

Roedd dau o swyddogion yr heddlu hefyd yn dioddef o effeithiau anadlu mwg ond y maent wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty erbyn hyn.

Mae criwiau'n dal i fod yn bresennol.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen