Diffoddwyr tân o’r Wyddgrug yn helpu i godi arian i elusennau lleol
Postiwyd
Daeth elusennau lleol i Orsaf Dân yr Wyddgrug yr wythnos hon i dderbyn hyd at £1,500, sef y swm a godwyd yn yr arddangosfa dân gwyllt flynyddol a gynhaliwyd ym mis Tachwedd.
Fe dderbyniodd Barnardos, Leukaemia and Lymphoma Research ac Uned Seren Wib Ysbyty Maelor, Wrecsam rodd o £500 yr un.
Meddai Peter Edwards, Rheolwr Gwylfa yng Ngorsaf Dân yr Wyddgrug: "Hoffwn ddiolch i bawb a drefnodd yr arddangosfa'r llynedd - roedd yn waith tîm gwirioneddol ac fe gydweithiodd pawb i greu arddangosfa wych i'r gymuned gyfan.
"Rydym yn falch ein bod yn cael cyfle i weithio gyda thrigolion yng Ngogledd Cymru er mwyn eu cadw mor ddiogel â phosib. Mae gweld yr arian yn mynd yn ôl i'r gymuned yn gwneud y cyfan yn werth chweil.
"Ein nod yw cadw ein trigolion yn ddiogel - a thrwy fynychu arddangosfeydd lleol gallwch gadw'n ddiogel dros y cyfnod tân gwyllt. Ar yr adeg yma o'r flwyddyn mae'n bwysig bod pobl yn cadw diogelwch tân yn y cartref mewn cof.
"Rydym ni yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru. Fel rhan o'r archwiliad bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref i rannu cynghorion ar ddiogelwch tân gyda chi yn ogystal â gosod larymau mwg os oes angen. I gofrestru, ffoniwch 0800 169 1234, e-bost dtc@gwastan-gogcymru.org.uk neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk."