Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dynes yn marw yn dilyn tân mewn eiddo ym Mhenrhyndeudraeth

Postiwyd

Mae dynes wedi marw yn dilyn tân ym Mhenrhyndeudraeth.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i dân mewn eiddo ar Stryd y Castell am 22.25 o'r gloch Ddydd Iau 20fed Mawrth.

Cafodd criwiau o Borthmadog, Blaenau Ffestiniog, Pwllheli a Harlech eu hanon i'r digwyddiad ac ar ôl cyrraedd daethant wyneb yn wyneb â thân a oedd wedi datblygu'n sylweddol mewn fflat uwchben y fferyllfa.

Defnyddiwyd pedair set o offer anadlu a dwy bibell dro i ddelio gyda'r tân.

Daeth diffoddwyr tân o hyd i ddynes yn ei 80au a chafodd driniaeth yn y fan a'r lle gan barafeddygon, ond bu farw'n ddiweddarach.

Llwyddodd dyn yn ei 80au i ddod allan o'r eiddo cyn i'r diffoddwyr tân gyrraedd.

Y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru  a Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i achos y tân.

Y mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cau'r A487 o ganlyniad i'r digwyddiad ac mae traffig yn cael ei ddargyfeirio yn yr ardal.

Nid oes rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen